Archif Newyddion

Chwilio Newyddion

Archif Newyddion
Bob blwyddyn, mae Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwent yn cynnal seremoni gwobrwyo i ddathlu cyflawniadau'r gwasanaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ledled Gwent ac i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad y dysgwyr a'r tiwtoriaid.
Mae'r Ystafell Ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Heolddu wedi cael cyllid o £100,000 i ailwampio ac adnewyddu'r man presennol.
Yn ddiweddar, cymerodd 8 disgybl Ysgol Cae'r Drindod ran mewn taith gerdded i gopa Pen y Fan er mwyn codi arian er budd elusen o'r enw Bigmoose, fel rhan o'u gwaith gwirfoddol Gwobr Dug Caeredin.
Dywedodd Arweinydd Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan, bod gwersi wedi’u dysgu o ganlyniad i gyflwyno ymgyrch y DU, ‘Mai Di-Dor’, yng Nghaerffili ac wedi ymrwymo i adolygiad, er mwyn sicrhau’r cydbwysedd cywir.
Fe wnaeth Aaron Ramsey, chwaraewr rhyngwladol Cymru ac eicon pêl-droed, agor y 'Cwrt Cruyff Aaron Ramsey’ yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod heddiw.
Mae Optrain Ltd yn fusnes lleol a gafodd ei sefydlu yn 2004, sy'n cynnig hyfforddiant i'r diwydiant adeiladu. Maen nhw'n ymgorffori dysgu digidol trwy gyfuniad o amodau safle gwaith gyda rheolaethau realistig, gan alluogi dysgu ymarferol, a gwella rhaglenni gweithredwyr traddodiadol.