News Centre

Gofyn i drigolion Caerffili roi eu barn ar Berchentyaeth Cost Isel

Postiwyd ar : 17 Awst 2022

Gofyn i drigolion Caerffili roi eu barn ar Berchentyaeth Cost Isel
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i drigolion roi eu barn ar y Polisi Drafft Perchentyaeth Cost Isel.

Bwriad y polisi newydd yw helpu i fodloni’r gofyniad am berchentyaeth fforddiadwy, gan helpu’r rheini ar incwm isel sy’n dyheu am fod yn berchen ar eu tŷ eu hunain ond sy’n methu â fforddio prynu heb gymorth ariannol.

Mae gofyn i drigolion edrych ar y polisi drafft a rhoi eu barn drwy lenwi holiadur byr. Mae modd dod o hyd i’r holiadur hwnnw ar y wefan, drwy ffonio 01443 863121 / 07596 318280, neu drwy anfon e-bost at StrategaethADatblygu@caerffili.gov.uk.


Ymholiadau'r Cyfryngau