News Centre

Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber yn ennill Gwobrau Efydd ac Arian Cymraeg Campws

Postiwyd ar : 12 Awst 2022

Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber yn ennill Gwobrau Efydd ac Arian Cymraeg Campws
Mae Ysgol Fabanod Cwmaber wedi llwyddo i ennill Gwobr Efydd Cymraeg Campws ac mae Ysgol Iau Cwmaber wedi ennill yr Wobr Arian am eu hymrwymiadau nhw tuag at hyrwyddo’r Gymraeg.

Mae Cymraeg Campus yn Siarter Iaith sy'n cael ei defnyddio i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion, ledled y Cwricwlwm ac ym mhob maes o fywyd yr ysgol.

Bydd Ysgol Fabanod Cwmaber nawr yn dechrau ar eu camau cyntaf nhw wrth weithio tuag at ennill yr wobr arian.

Meddai asesydd Cymraeg Campws, “Diolch yn fawr am y croeso cynnes y prynhawn yma a llongyfarchiadau unwaith eto am ennill Gwobr Efydd Cymraeg Campws i safon mor uchel. Roedd yn bleser ymweld ag Ysgol Fabanod Cwmaber a gweld eich holl waith gwych chi. BENDIGEDIG oedd y plant!”

Mae Ysgol Iau Cwmaber wedi ennill Gwobr Arian Cymraeg Campws ar ôl cael eu gwobr efydd nhw yn flaenorol ac, nawr, maen nhw'n gobeithio ennill eu gwobr aur nhw yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Mae ennill Gwobrau Efydd ac Arian Cymraeg Campws yn gyflawniad anhygoel i Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber; mae’n wych gweld disgyblion yn awyddus i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau