News Centre

Yr haf yn dod ym mis Medi ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 17 Awst 2022

Yr haf yn dod ym mis Medi ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn paratoi ar gyfer haf ym mis Medi eleni, gyda dau o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y Fwrdeistref Sirol.
 
Ddydd Sadwrn 3 Medi a dydd Sul 4 Medi, bydd Gŵyl Caws Bach Caerffili yn digwydd am y tro cyntaf, gyda Pharti Traeth Coed Duon yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn 10 Medi.
 
Ar 2 a 3 Medi, bydd Gŵyl Caws Bach Caerffili yn digwydd yng nghanol tref Caerffili gan gynnwys digwyddiad cerddorol gyda nifer o ardaloedd cerdd ar hyd Cardiff Road a Chanolfan Siopa Cwrt y Castell, yn ogystal â phrif lwyfan ym Maes Parcio'r Twyn.
 
Bydd y digwyddiad yn gartref i gerddorion lleol a cherddorion amlwg ynghyd â nifer o stondinau bwyd a diod. Bydd gweithdai cerddoriaeth, sesiynau crefft a reidiau ffair bach i'r plant hefyd.
 
Caws Bach Caerffili yw’r fersiwn amgen i Ŵyl Caws Mawr Caerffili eleni, gan fod y gwaith datblygu yng Nghastell Caerffili yn atal y digwyddiad rhag digwydd yn ei fformat arferol. 
 
Ddydd Sadwrn 10 Medi bydd y digwyddiad blynyddol poblogaidd, Parti Traeth Coed Duon, yn dychwelyd.
 
Bydd Stryd Fawr Coed Duon yn cael ei thrawsnewid yn barti traeth trefol gyda digonedd o dywod, cadeiriau cynfas, a bwcedi a rhawiau i ddiddanu'r teulu cyfan.
 
Bydd nifer fawr o reidiau ffair yn dod â bywyd i un pen y stryd fawr gyda stondinau, atyniadau a thraeth anferth yn cymryd drosodd y pen arall! Bydd Cyngor Tref Coed Duon hefyd yn trefnu eu llwyfan nodwedd gyda rhaglen adloniant lawn drwy'r dydd yn cynnwys cantorion, bandiau a dawnswyr lleol.
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd: “Rydyn ni wrth ein boddau yn croesawu dau o’n digwyddiadau mwyaf poblogaidd yn ôl, sydd wedi’u colli’n fawr ers cyn COVID. 
 
“O ddigwyddiadau fel y rhain, i’r atyniadau gorau i dwristiaid ac opsiynau bwyta gwych, mae gan Fwrdeistref Sirol Caerffili gymaint i’w gynnig i drigolion ac ymwelwyr yr haf hwn.”
 
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau, atyniadau a gweithgareddau ewch i: www.visitcaerphilly.com/cy/


Ymholiadau'r Cyfryngau