News Centre

Canmol Cyngor Caerffili am wahardd anifeiliaid anwes fel gwobrau

Postiwyd ar : 11 Gor 2022

Canmol Cyngor Caerffili am wahardd anifeiliaid anwes fel gwobrau
Mae'r RSPCA wedi canmol Cyngor Caerffili am gymryd safiad cadarnhaol yn erbyn cam-drin anifeiliaid.
 
Cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili waharddiad ar anifeiliaid anwes fel gwobrau yn ôl yn 2019 a’r cyntaf i wneud safiad mor gyhoeddus ar y mater.
 
Daeth cefnogaeth y Cyngor llawn yn dilyn cefnogaeth unfrydol gan Bwyllgor Craffu’r Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cyngor, lle rhoddodd RSPCA Cymru dystiolaeth ochr yn ochr â’r Cynghorydd Jamie Pritchard.

Dywedodd RSPCA Cymru ei fod yn “newyddion gwych i les anifeiliaid, yn enwedig pysgod aur”.
 
Gall rhoi anifeiliaid fel gwobrau fod yn niweidiol i les yr anifeiliaid. Bydd llawer yn marw cyn dychwelyd i'w cartrefi newydd, neu'n fuan wedyn; ac mae ennill anifail trwy gêm yn annog perchnogion i gymryd anifeiliaid anwes ymlaen mewn modd digymell, a heb ei gynllunio'n dda.

Gall pysgod aur fynd dan straen yn hawdd, ac yn aml mae pysgod sy'n cael eu hennill fel gwobrau yn dioddef yn ofnadwy o sioc, newyn ocsigen a newidiadau i dymheredd y dŵr oherwydd eu hamgylchedd anaddas.

Mae bellach yn anghyfreithlon rhoi anifeiliaid anwes fel gwobrau ar dir sy'n cael ei reoli gan yr awdurdod lleol. Roedd hyn yn dilyn gwybodaeth am bysgod aur yn cael eu rhoi fel gwobrau yn yr ardal leol.

Mae’r RSPCA yn cynnal ymgyrch i wahardd yr arfer o’r enw #NoFunAtTheFair gan eu bod yn ofni y bydd yr haf yn gweld rhagor o bysgod aur yn cael eu rhoi fel gwobrau fel ffeiriau.

Dywedodd rheolwr materion cyhoeddus RSPCA Cymru, Chris O’Brien, “Gyda chyfyngiadau Covid bellach wedi’u lleddfu’n llwyr yng Nghymru, mae perygl gwirioneddol y bydd rhoi pysgod aur fel gwobrau yn dychwelyd mewn niferoedd mawr wrth i ffeiriau hwyl a digwyddiadau ailddechrau. 

“Rydyn ni wrth ein bodd bod bron i chwarter awdurdodau lleol Cymru eisoes wedi gwahardd yr arfer ar eu tir – ond bydd RSPCA Cymru yn parhau i ymgyrchu hyd nes y bydd yr arfer hwn yn cael ei anfon i’r llyfrau hanes.”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerffili, “Mae rhoi anifeiliaid i ffwrdd fel gwobrau yn gwbl amhriodol ac, fel cyngor, rydyn ni'n cefnogi safiad yr RSPCA y dylid rhoi’r gorau i’r arfer hwn.

"Dydy Cyngor Caerffili ddim wedi caniatáu i unrhyw ddigwyddiad sy'n cynnig anifeiliaid fel gwobrau gael ei gynnal ar dir y Cyngor ers 2019. Fel awdurdod lleol, rydyn ni'n cymryd lles anifeiliaid o ddifrif a gyda chyfyngiadau wedi lleddfu a misoedd yr haf wedi cyrraedd, byddem yn annog trigolion i beidio ag ymgysylltu ag unrhyw ffeiriau neu adloniant sy’n cynnig anifeiliaid fel gwobrau.”


Ymholiadau'r Cyfryngau