News Centre

Cabinet CBSC yn cychwyn ar daith

Postiwyd ar : 19 Gor 2022

Cabinet CBSC yn cychwyn ar daith
Bydd grŵp o uwch gynghorwyr CBSC yn ymweld â chymunedau ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili i drafod cyfleoedd newydd ac ystyried materion allweddol sy’n effeithio ar bobl leol.  
 
Mae Cabinet y cyngor yn awyddus i fynd allan ar lawr gwlad a gweld drostynt eu hunain y cyfleoedd a’r heriau amrywiol sy’n wynebu’r gymuned.
 
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Rwyf wedi addo sicrhau newid cadarnhaol i drigolion y fwrdeistref sirol a rhan allweddol o’r broses hon yw deall yn well y ‘pynciau poeth’ yn ein trefi a’n pentrefi.”
 
“Byddwn ni'n ymweld â phob rhan o’r fwrdeistref sirol dros yr wythnosau nesaf ac fel cabinet rydyn ni'n edrych ymlaen at ddefnyddio’r cyfle hwn i ehangu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r materion sydd bwysicaf i bobl leol.” 
 
Ymwelodd y grŵp â chanol tref Caerffili yn gyntaf i weld nifer o safleoedd datblygu uchelgeisiol a fydd yn trawsnewid ffawd y dref yn y dyfodol:
  • Safle arfaethedig datblygiad canolfan hamdden newydd a gwell ar Barc Busnes Caerffili, sydd ar hyn o bryd yn destun cais am Gyllid Codi'r Gwastad gan Lywodraeth y DU.
  • Gorsaf drenau a bysiau Caerffili, sydd wedi’i glustnodi fel safle ar gyfer canolbwynt cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus newydd sylweddol.
  • Y farchnad dan do bresennol ar Pentrebane Street, a fydd yn gwneud lle ar gyfer datblygiad preswyl a manwerthu defnydd cymysg uchelgeisiol. Rhan allweddol o hyn yw adleoli masnachwyr y farchnad i lety arall yn y dref. 
  • Safle datblygiad gwesty bwtîc cynlluniedig ar Park Lane gyferbyn â chastell godidog y dref 
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jamie Pritchard: “Mae gennym ni gynlluniau mentrus ac uchelgeisiol i drawsnewid canol tref Caerffili dros y blynyddoedd nesaf ac mae’n ddefnyddiol ymweld â’r gwahanol safleoedd i drafod y materion sy’n ymwneud â phob datblygiad arfaethedig.”
 
“Mae ein cynlluniau trawiadol, a amlinellwyd yng nghynllun Llunio Lleoedd Tref Caerffili 2035, yn dangos yn glir ein bod ni wedi ymrwymo i sicrhau newid cadarnhaol i drigolion ein bwrdeistref sirol. Rydyn ni'n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o bartneriaid allweddol i wireddu’r cynlluniau hyn ac edrychwn ymlaen at weld llawer o gynnydd cyffrous yn y dyfodol agos.”
 
Am ragor o wybodaeth am Gynllun Llunio Lleoedd Tref Caerffili 2035, ewch i https://www.caerphillytown2035.co.uk/cy/


Ymholiadau'r Cyfryngau