Diweddariad ar y Cynllun Cymorth Costau Byw - Gorffennaf 20
Postiwyd ar : 20 Gor 2022
Taliad o £150 ar gyfer Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru (Y Prif Gynllun) – Gwiriwch a ydych chi'n gymwys a chofrestri nawr!
Rhwng diwedd mis Mai a chanol mis Gorffennaf 2022, cafodd llythyr ei anfon at bob cartref a oedd yn gymwys o dan y prif gynllun ac nad ydyn nhw'n talu eu treth y cyngor drwy ddebyd uniongyrchol, yn eu gwahodd i gofrestru eu manylion nhw gyda ni.
Rhwng nawr a diwedd Gorffennaf, byddwn ni'n anfon llythyr atgoffa i gartrefi nad ydyn nhw wedi cofrestru eto, ond nid oes angen i chi aros am y llythyr hwn; gallwch chi gofrestru nawr.
Mae'r cymorth hwn yn ychwanegol at y taliadau costau byw sy'n cael eu talu ar hyn o bryd i hawlwyr budd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os nad ydych chi wedi cofrestru eto, gallwch chi wneud hyn drwy lenwi ffurflen gofrestru ar ein gwefan ni.
Cyn i chi gofrestru, gwnewch yn siŵr bod gennych chi'r canlynol:
Rhif eich cyfrif Treth y Cyngor (mae hwn ar y llythyr rydyn ni'n ei anfon atoch chi; bydd y rhif hefyd ar eich bil Treth y Cyngor)
- Enw eich cyfrif banc
- Cod didoli eich banc a rhif eich cyfrif
- Eich cyfeiriad e-bost
- Rhif ffôn cyswllt
- Eich dyddiad geni
- Eich cyfeiriad presennol a'ch cod post
Os ydych chi wedi trefnu i dalu eich treth y cyngor drwy ddebyd uniongyrchol yn ddiweddar ond heb gael eich taliad costau byw chi eto, bydd angen i chi nawr gofrestru eich manylion chi ar ein gwefan ni cyn y gallwn ni eich talu chi.
Os nad ydych chi'n gymwys o dan y prif gynllun, efallai eich bod chi'n gymwys ar gyfer cael taliad o dan y Cynllun Disgresiynol. Bydd ein Cynllun Disgresiynol ni'n cael ei lansio cyn bo hir. Byddwn ni'n diweddaru ein gwefan ni a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol ni bryd hynny.