News Centre

Ysgol Gynradd Fochriw yn cipio tair gwobr yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

Postiwyd ar : 21 Gor 2022

Ysgol Gynradd Fochriw yn cipio tair gwobr yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig
Mae Ysgol Gynradd Fochriw wedi llwyddo i sicrhau tair gwobr yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.

Enillodd yr ysgol Wobr William Menelaus am y prosiect gorau ar dreftadaeth ddiwydiannol gyda gwobr ariannol o £500. Yn ogystal, cafodd £600 ei ddyfarnu gan Sefydliad Moondance i ddathlu ditectifs hanesyddol yr ysgol. Daeth cydnabyddiaeth bellach o ymdrechion yr ysgol gan Gyngor Llyfrau Cymru, gydag ymweliad gan awdur yn wobr.

Gwnaeth disgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn Nosbarth Tref Merthyr gynnal ymchwiliad i ddarganfod rhagor am bentref ‘coll’ Pen-y-banc yng Nghwm Darran. Gweithiodd yr ysgol mewn partneriaeth â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili a ddarparodd cymorth gydag ystod eang o wybodaeth a thystiolaeth i ddod â’u hymchwil nhw’n fyw.

Rhoddodd y beirniaid ganmoliaeth i’r prosiect, gan ddweud, “Trwy’r pwnc hwn, datblygodd y disgyblion eu gwybodaeth a’u balchder nhw yn eu cymuned nhw. Enillon nhw ddealltwriaeth ardderchog o hanes ehangach Cwm Darran. Roedd yr ymdeimlad o ddarganfod a brwdfrydedd yn amlwg drwyddi draw. Gadawodd y disgyblion gryn argraff ar y beirniaid gyda’u hymrwymiad llwyr nhw i’r ymholiadau hanesyddol a’u huchelgais nhw i rannu’r hyn a gafodd ei ddysgu."

Dywedodd Mrs Pascoe, y Pennaeth, “Mae’n wych cael cydnabyddiaeth am ein hymdrechion ni yn Ysgol Gynradd Fochriw gan y fenter hon sy’n tynnu sylw at dreftadaeth Gymreig ar gyfer ysgolion ledled Cymru. Mae’n bwysig i’n hysgol ni a’r gymuned ehangach fod gan ein disgyblion ni wybodaeth a dealltwriaeth o’u treftadaeth Gymreig nhw. Maen nhw wedi bod wrth eu boddau yn archwilio a dysgu am y gorffennol gan ddefnyddio’r dull creadigol, arloesol hwn. Rydyn ni’n hynod falch o ennill tair gwobr!”

Ychwanegodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Am gyflawniad eithriadol i Ysgol Gynradd Fochriw. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran. Mae’n wych gweld disgyblion yn ymddiddori yn eu treftadaeth a’u diwylliant Cymreig nhw.”


Ymholiadau'r Cyfryngau