News Centre

​Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus wedi'u hadnewyddu o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus

Postiwyd ar : 21 Gor 2022

​Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus wedi'u hadnewyddu o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo adnewyddu ein hardaloedd presennol ni sydd â Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy’n cyfyngu ar yfed alcohol ac mae’n cyflwyno sawl mesur newydd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn lleoliadau penodol. 

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chymeradwyaeth gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, cafodd y gorchmynion eu gwneud heddiw (25 Mai 2022).

Byddan nhw'n dod i rym ar 15 Gorffennaf 2022 ac yn dod i ben ar 15 Gorffennaf 2025. Mae'r gorchmynion yn adnewyddu ac yn cyflwyno pwerau sy'n gallu cael eu defnyddio gan y Cyngor a phartneriaid i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Pan yng nghyffiniau ardal Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus:

  • Ni chaiff neb yfed alcohol pan fydd person awdurdodedig neu gwnstabl yn gofyn i beidio â gwneud hynny. 

Bydd gan rai ardaloedd y cyfyngiadau ychwanegol canlynol hefyd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol:

  • Ni chaiff neb ymddwyn mewn modd afreolus, anweddus neu dramgwyddus.
  • Ni chaiff neb ddifrodi na difwyno unrhyw ran o'r ardal hon.
  • Ni chaiff neb yfed alcohol pan fydd person awdurdodedig yn gofyn i beidio â gwneud hynny.
  • Ni chaiff neb gollwng sbwriel, gwneud graffiti na chynnau tanau yn fwriadol yn yr ardal hon.
  • Ni chaiff neb rwystro neu amharu'n fwriadol ar berson awdurdodedig wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau
  • Ni chaiff unrhyw berson feddu ar gerbyd oddi ar y ffordd yn yr ardal hon.
  • Bydd unrhyw berson y mae prson awdurdodedig yn ei amau'n rhesymol o dorri'r darpariaethau perthnasol yn rhoi ei enw a'i gyfeiriad pan mae gofyn iddo wneud hynny gan berson awdurdodedig. 

Bydd unrhyw berson sy'n cael ei gael yn euog o dorri'r gorchymyn yn atebol ar euogfarn ddiannod i ddirwy gwerth hyd at £1,000.

Bydd torri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn arwain at hysbysiad cosb benodedig o £100 i'w dalu o fewn 14 diwrnod ar ôl ei gyflwyno. Bydd hyn yn cael ei ostwng i £75 os caiff ei dalu o fewn 7 diwrnod. Bydd methu â thalu'r hysbysiad cosb benodedig yn arwain at erlyniad.

Mae swyddogion heddlu, swyddogion diogelwch cymunedol yr heddlu ac unrhyw swyddogion wedi'u dynodi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gallu gorfodi Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

“Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud ag yfed yn y stryd yn parhau i ddifetha llawer o'n cymunedau ni, ac mae'r Cyngor yn sefyll yn gadarn drwy gyflwyno Gorchmynion mewn nifer o ardaloedd y mae trigolion a chynghorwyr wedi dwyn ein sylw ni atyn nhw.

“Yn y pen draw, diogelu trigolion yw ein blaenoriaeth ni, a'r nod yw sicrhau bod y mwyafrif sy'n ufudd i'r gyfraith yn gallu defnyddio a mwynhau mannau agored cyhoeddus, heb wynebu ymddygiad gwrthgymdeithasol.”

Gallwch chi weld rhestr o’r holl ardaloedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili sy’n dod o dan Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

 



Ymholiadau'r Cyfryngau