News Centre

Gofyn i denantiaid Cyngor Caerffili fynegi eu barn ar rent

Postiwyd ar : 17 Mai 2022

Gofyn i denantiaid Cyngor Caerffili fynegi eu barn ar rent
Mae cyfle i denantiaid y Cyngor ym Mwrdeistref Sirol Caerffili fynegi'u barn ar y rhent maen nhw'n ei dalu.

Y llynedd, fe ofynnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i'w denantiaid a ddylai ystyried incwm cyfartalog cartrefi wrth osod rhenti. O blith y rhai a atebodd, meddai 54% y dylai hynny gael ei ystyried.

Mewn ymateb i hyn, mae'r Cyngor nawr yn gofyn i denantiaid lenwi arolwg byr i fynegi eu barn. Bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio fel rhan o adolygiad y Cyngor o renti a fforddiadwyedd, a fydd yn ei helpu i ystyried sut y bydd rhenti'n cael eu gosod yn y dyfodol.

Mae'r arolwg ar gael ar-lein. Bydd yr arolwg yn dod i ben ddydd Llun 23 Mai.
Bydd pob tenant sy'n cymryd rhan ac yn darparu eu manylion cyswllt yn cael eu cynnwys mewn raffl, gydag un person yn ennill talebau siopa gwerth £100 a thri pherson arall yn ennill talebau gwerth £50.

Am ragor o wybodaeth, neu os nad ydych chi'n gallu llenwi'r arolwg ar-lein, ffoniwch Dîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned y Cyngor ar 01443 811433 / 811434 neu anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau