News Centre

Dechrau'r gwaith torri gwair a thrin chwyn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 16 Mai 2022

Dechrau'r gwaith torri gwair a thrin chwyn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ailddechrau ei raglen torri gwair rheolaidd, ac mae'n gweithio'n galed i sicrhau cydbwysedd rhwng cadw'r Fwrdeistref Sirol yn daclus a helpu hyrwyddo bioamrywiaeth.

Fe wnaeth Cyngor Caerffili fabwysiadu dull newydd o dorri gwair yn 2020, a oedd yn golygu gwneud cyn lleied â phosibl o waith torri gwair. Fe gafodd cynlluniau eu datblygu i rannu Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ‘barthau’ – gyda'r gwaith cynnal a chadw traddodiadol yn parhau mewn rhai ardaloedd, lleihau'r gwaith mewn rhai ardaloedd, a pheidio â thorri'r gwair mewn ardaloedd eraill i sicrhau manteision ecolegol a bioamrywiaeth.

Mae'r gwaith trin chwyn yng nghanol y chwe phrif dref (Bargod, Caerffili, Coed Duon, Rhisga, Rhymni, Ystrad Mynach) hefyd wedi dechrau ac, eleni, oherwydd cyllid ychwanegol, bydd y gwaith trin chwyn yn dechrau am ail dro ym mis Awst/Medi.

Meddai Mark S. Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Yr Economi a'r Amgylchedd, “Er ein bod ni'n deall pwysigrwydd cynnal a chadw mannau gwyrdd y Fwrdeistref Sirol, mae gwarchod ein hamgylchedd hefyd yn flaenoriaeth allweddol. Bydd gwahanol safbwyntiau mewn cymunedau lleol, ond, ein nod ni yw cydbwyso estheteg a diogelwch ag ecoleg.”


Ymholiadau'r Cyfryngau