Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda phartneriaid cymdeithasau tai i adolygu ei Bolisi Dyrannu Cyffredin presennol, gyda'r nod o'i gwneud yn haws i bobl wneud cais am dai cymdeithasol gan hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.
Bydd gwasanaethau rheilffordd rheolaidd rhwng Glynebwy a Chasnewydd yn rhedeg am y tro cyntaf ers dros 60 mlynedd, diolch i fuddsoddiad o £70m gan Lywodraeth Cymru.
Mae Dull Byw Hamdden yn falch o gyhoeddi bod Ellie Welsh, aelod o dîm Canolfan Hamdden Cefn Fforest, wedi’i hanrhydeddu â theitl mawreddog athro nofio’r flwyddyn Nofio Cymru 2024. Cafodd Ellie’r gydnabyddiaeth werthfawr hon yn y seremoni wobrwyo a gafodd ei chynnal ddydd Sadwrn 20 Ionawr yng Nghaerdydd.
Mae’r Cyngor yn ymwybodol bod rhywfaint o bryder a dryswch yn y gymuned ynglŷn ag adfer Tomen Bedwas, felly, rydyn ni'n awyddus i rannu'r gwir am y sefyllfa bresennol.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Reoliadau Mynwentydd hirsefydlog i’n galluogi ni i reoli a chynnal urddas a sancteiddrwydd ein mynwentydd yn effeithiol.
Mae perllan wedi’i phlannu gan ffoaduriaid o Wcráin yng Nghaerffili i ddangos eu diolchgarwch parhaus i’r Cymry a agorodd eu calonnau a’u cartrefi yn garedig yn dilyn goresgyniad Rwsia.