Mae CB Refrigeration wedi bod mewn busnes ers dros 50 mlynedd, ac yn 2016, fe symudon nhw eu prif swyddfa i Gaerffili. Ers hynny, mae'r perchennog, Andrew Hall, wedi gweld y busnes yn mynd o nerth i nerth gyda throsiant yn fwy na £4.3 miliwn bellach, gan gynyddu 25% eleni yn unig.