Creu Amgylchedd Parc Gwledig
Cwblhawyd y gwaith adfer, ac yn
wahanol i nifer o safleoedd diwydiannol
eraill, mae'r holl ardal wedi ei
drawsnewid drwy waith tirlunio helaeth.
Crëwyd amgylchedd parc gwledig
a fydd yn bleser i weithio ynddo.
Ymgymerwyd â gwaith i reoli'r
planhigfeydd presennol i gynyddu
amrywiaeth strwythurol a rhywogaethol,
ac mae'r Cynllun Rheoli Coetir yn
rhan o'r Cynllun Rheoli Tirwedd.
Ymgorfforwyd cyfanswm syfrdanol
o 144,000 o blanhigion i mewn i'r
safle cyfan. Yn bennaf defnyddiwyd
coetir Derw a Bedw gyda choed Onn,
Ffawydd a Cheirios, a'r rhain sy'n
ffurfio prif strwythur tirwedd y
safle. Mae pob llwyfandir wedi ei
hadu gyda glaswellt brodorol a meillion.
Mae rheoli ecoleg y safle yn ffurfio
rhan sylweddol o'r Cynllun Rheoli
Tirwedd, ac ymgymerir â gwaith
pellach i wella'r cynefinoedd, yn
enwedig yn yr ardaloedd o goetir
gwlyb a'r glaswelltir.
Bwriedir clirio'r pyllau naturiol
islaw Llwyfandir 1, a chael gwared
ar y gwaddodion i greu ecosystem
dŵr agored. Caiff y glaswelltir
ei reoli i annog bywyd gwyllt, yn
enwedig er mwyn cynyddu nifer yr
ehedyddion, sy'n prysur brinhau.
Fersiwn addas i argraffu | Yn ôl
|