|
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Gwasanaeth Bws
Mae gwasanaethau bws amrywiol yn rhedeg naill ai i Goed Duon neu
Drecelyn o Gasnewydd, Brynmawr, Caerdydd, Cwmbrân, Glyn Ebwy,
Pont-y-pwl, Pontypridd a Thredegar.
Mae Gwasanaeth Bws 5, a weithredir gan Islwyn Borough Transport,
yn rhedeg bob awr rhwng Coed Duon, Oakdale a Threcelyn, gyda bysiau
ychwanegol yn rhedeg yn ystod y dydd rhwng Coed Duon, Oakdale a
Chroespenmaen, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r brif arosfan bysiau yn Heol Pandy, Croespenmaen, o fewn
5 munud ar droed i'r Parc Busnes. Yn ystod oriau brig, mae bysiau
yn rhedeg i'r Parc Busnes drwy Parkway i gyffordd Rush Way ar Ystâd
Ddiwydiannol Pen-y-fan.
Gwasanaeth Trên
Mae gwasanaethau trên rheolaidd yn rhedeg o Gaerdydd i Orsaf
Ystrad Mynach. Mae Gwasanaeth Bws RL5 yn darparu cysylltiad rhwng
Gorsaf Ystrad Mynach a Choed Duon. Cynlluniwyd y gwasanaeth i gwrdd
â threnau ar amseroedd cyfleus, a gellir prynu un tocyn i
deithio ar y trên a’r bws.
Bydd ailagoriad arfaethedig llinell Cwm Ebwy, gyda gorsafoedd newydd yng Nglyn Ebwy, Llanhiledd,
Trecelyn, Rhisga a Thŷ-du, yn darparu system integredig gyda
gwasanaethau bws i Barc Busnes Oakdale, a chynlluniau Parcio a Theithio.
Gall hyn fod yn weithredol erbyn 2007.
- Caerphilly Travelinks: (01495) 235223
neu
- Traveline cymru: 0870 608 2 608
|
|