Ble a sut i ddod o hyd i ni
Gall lleoliad Bwrdeistref Sirol Caerffili rhwng Caerdydd, prifddinas
Cymru i'r de, a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i'r gogledd,
ddarparu lleoliad amgen gwell ar gyfer eich busnes, gan ddarparu'r
holl hanfodion ar gyfer ansawdd bywyd rhagorol.
Lleolir Parc Busnes Oakdale ar gyrion ochr ddwyreiniol Bwrdeistref
Sirol Caerffili, tua 11 milltir i'r gogledd o gyffordd 28 yr M4.
Bydd gan Barc Busnes Oakdale ei ffordd fynediad ei hun, a fydd yn
ei gysylltu â'r A472 ym Mhontllan-fraith, gan sicrhau y bydd
deiliaid y dyfodol o fewn 5 munud i ganol tref Coed Duon. Bwriedir
cwblhau'r ffordd hon, Ffordd Fenter Sirhywi, a'r ddau gyswllt allweddol
ar draws y cwm, erbyn gwanwyn 2006.
Mae'r safle 170 erw gyferbyn ag ystâd ddiwydiannol hynod
lwyddiannus Pen-y-fan, sy'n gartref i gwmnïau megis Atlantic
Technology UK Ltd, FIAMM UK Ltd a Venturepak.
Mae cylchfan yn darparu mynediad uniongyrchol o'r Parkway, sef
y brif ffordd drwy Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan, ac mae hyn
yn rhoi mynediad uniongyrchol i'r ddau lwyfandir mwyaf, sef llwyfandiroedd
1 a 2. Ariannwyd seilwaith y safle drwy Her Cyfalaf Cymru, gyda
chylchfan yn darparu mynediad uniongyrchol i Lwyfandir 1 a 2. Mae
ffordd yn rhedeg trwy'r safle cyfan sy'n darparu mynediad i'r llwyfandiroedd
is.
Mae Ffordd Gyswllt Pentref Oakdale yn cysylltu'r Parc Busnes â
datblygiad preswyl o'r radd flaenaf gan Redrow ar gwr pentref Oakdale.
Gwnaethpwyd gwelliannau i'r B4251 ar Fryn Kendon sy'n arwain i Ystâd
Ddiwydiannol Pen-y-fan. Caiff mynediad hir dymor ei ddarparu yn
sgíl adeiladu Ffordd Fenter Sirhywi. |