|
Llwyfandir 1
Hwn yw'r llwyfandir mwyaf sydd ar gael ar gyfer datblygu yng Nghymoedd
y de, gyda golygfeydd dros Gwm Sirhywi. Mae datblygiad y llwyfandir
hwn yn dibynnu ar adeiladu Ffordd Fenter Sirhywi, a dechreuodd gwaith
ym mis Ionawr 2004 ar y ffordd ansawdd uchel hon. Disgwylir i Ffordd
Fenter Sirhywi gael ei chwblhau yn 2006.
Mae'r safle hwn gyferbyn ag Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan,
wrth fynedfa ddwyreiniol Parc Busnes Oakdale. Mae ganddo fynediad
uniongyrchol i gylchfan a adeiladwyd oddi ar Parkway, sef y brif
ffordd drwy Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer Canolfan
Arloesi rhwng Parc Busnes Oakdale ac Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan,
ger y gylchfan sy'n rhoi mynediad i'r safle. Bydd yr adeilad swyddfa
dau lawr yn darparu rhyw fath o borth i Barc Busnes Oakdale.
Ar hyn o bryd mae Llwyfandir 1 wedi ei gadw ar gyfer un defnyddiwr mawr. Nid oes cynigion datblygu ar y safle hwn ar hyn o bryd.
Maint: 100 erw (20.23 hectar)
|
|