Parc Busnes Oakdale
 

 

Llwyfandir 2

Yn 50 erw (20.23 hectar) o faint, hwn yw’r llwyfandir mwyaf ond un ar Barc Busnes Oakdale, ac mae wedi bod yn destun rhaglen ddatblygu gan y Cyngor ac Awdurdod Datblygu Cymru.

Mae’r safle gyferbyn ag Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan, wrth fynediad dwyreiniol Parc Busnes Oakdale. Mae ganddo fynediad uniongyrchol i gylchfan a adeiladwyd oddi ar Parkway, y prif ffordd drwy Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer Canolfan Arloesi rhwng Parc Busnes Oakdale ac Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan, ger y gylchfan sy’n rhoi mynediad i’r safle. Bydd yr adeilad swyddfa dau lawr yn darparu rhyw fath o borth i Barc Busnes Oakdale.

Mae’r Cyngor wedi gwneud cynigion ar gyfer nifer o ddatblygiadau pellach ar y safle hwn, sy’n amodol ar sicrhau cyllid. Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer 6 uned fusnes arall, tua 465 metr sgwâr.

Maint: 50 erw (20.23 hectar)

 
     
  Nôl i'r dudalen blaenorol Nôl