Parc Busnes Oakdale
 

 

Llwyfandir 4

Mae’r safle blaenllaw hwn wedi ei leoli ar ochr orllewinol isaf y parc busnes, lle bydd Ffordd Fenter Sirhywi yn cyrraedd y fynedfa i’r Parc Busnes. Hwn oedd y llwyfandir olaf i’w gwblhau er mwyn ei ddatblygu, a bydd ganddo fynediad uniongyrchol i Ffordd Fenter Sirhywi.

Mae 8 erw (3.24 hectar) ar gael ar gyfer hap-ddatblygiadau neu ddatblygiadau pwrpasol ar gyfer defnyddiau amrywiol.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu 3 adeilad swyddfa, gyda chyfanswm maint o 35,000 troedfedd sgwâr (3,252 metr sgwâr). Gwnaethpwyd y cais gan y Cyngor, ac mae’r gwaith yn amodol ar sicrhau cyllid.

Maint: 8 erw (3.24 hectar)

 
     
  Nôl i'r dudalen blaenorol Nôl