|
Unedau 1-4
Gweithiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac Awdurdod Datblygu Cymru mewn partneriaeth ar y cam cyntaf o’r gwaith datblygu ar lwyfandir 2. Adeiladwyd y 4 uned mewn safleoedd blaenllaw wrth y fynedfa i Lwyfandir 2 - Bryn Brithdir.
Mae’r pedair uned gweithgynhyrchu, dwy yn 10,000 troedfedd sgwâr (929 metr sgwâr) a dwy yn 20,000 troedfedd sgwâr (1,858 metr sgwâr) wedi eu gosod fel adeiladau lled-wahanedig sy’n cynnwys 15% o arwynebedd swyddfa a lle i ehangu 100% ar y safle.
Mae’r cwmnïau lleol Aztech Assemblies a The Omiga Glass Centre yn defnyddio unedau 1 a 2, sef yr unedau 10,000 troedfedd sgwâr (929 metr sgwâr).
Mae pencadlys General Dynamics United Kingdom Ltd wedi ei leoli
yn Unedau 3 a 4. Mae’r ddwy uned 20,000 troedfedd sgwâr
(1,858 metr sgwâr) wedi eu cyfuno a’u haddasu i’w
defnyddio fel swyddfa ar gyfer uwch reolwyr a swyddogaethau cymorth
megis TG a chyllid. Mae’r timau rheoli rhaglenni ar gyfer
BOWMAN a’r rhaglenni digidoli tir hefyd wedi eu lleoli yn
yr adeilad.
|
|