|
Unedau 5-8
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac Awdurdod Datblygu Cymru wedi cydweithio eto, gan wneud ceisiadau ategol er mwyn manteisio i’r eithaf ar botensial Arian Amcan 1 Ewrop.
Sicrhawyd Arian Amcan 1 Ewrop ar gyfer cyfnodau datblygu pellach ar lwyfandir 2 – sef cyfanswm o 100,000 troedfedd sgwâr (9,290 metr sgwâr) o ofod diwydiannol o ansawdd, yn amrywio o 12,500 (1,161 metr sgwâr) i 100,000 troedfedd sgwâr (9,290 metr sgwâr).
Mae’r Cyngor wedi adeiladu datblygiad 50,000 troedfedd sgwâr
(4,645 metr sgwâr) yn cynnwys 4 uned mewn man blaenllaw wrth
y fynedfa i Lwyfandir 2. Mae’r pedair uned gweithgynhyrchu,
12,500 troedfedd sgwâr (1,161 metr sgwâr) i gyd yn 2
adeilad lled-wahanedig. Mae gan bob uned 15% o arwynebedd swyddfa
gydag ierdydd gwasanaeth a mynedfa i gerbydau nwyddau. Caiff yr
unedau eu gwasanaethu gan ffordd fynediad gyffredin, sy’n
arwain at y meysydd parcio a’r iard wasanaeth.
|
|