|
Y Pafiliynau
Bydd datblygiad dramatig y Pafiliynau ar ochr orllewinol y parc busnes yn cadarnhau safle Parc Busnes Oakdale fel lleoliad ar gyfer busnes modern. Bwriedir lleoli’r datblygiad porth hwn ar safle blaenllaw llwyfandir 4 lle mae Ffordd Fenter Sirhywi yn arwain i’r parc busnes. Mae gan y datblygiad hwn y potensial i gael ei adeiladu mewn dau gam, ac mae’r cynigion presennol ar gyfer darparu 35,000 troedfedd sgwâr (3,251 metr sgwâr) o adeiladau swyddfa gyda’r cyfarpar diweddaraf mewn tri adeilad. Caiff yr unedau eu hadeiladu er mwyn cyflawni cyfradd ragoriaeth BREEAM, ac mae’r cynigion yn amodol ar gyllid.
|
|