Cyllid ar gyfer Parc Busnes Oakdale
Mae Parc Busnes Oakdale yn elwa ar ei leoliad o fewn ardal a gynorthwyir, ac wedi denu lefelau uchel o gymorth grantiau drwy’r cynlluniau adfer tir a’r gwaith i ddatblygu’r safle blaenllaw hwn. Yn ogystal, gall busnesau cymwys sy’n lleoli ym Mharc Busnes Oakdale elwa ar gymorth grant.
Adfer Tir a Thirlunio
Ariannwyd y gwaith o adfer y safle yn rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd, a roddodd grant i Awdurdod Datblygu Cymru.
Ariannwyd y gwelliannau amgylcheddol, yn cynnwys y gwaith plannu a datblygiad y Cynllun Rheoli Tirwedd, drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac Awdurdod Datblygu Cymru.
Seilwaith
Ariannwyd seilwaith y safle drwy Gynllun Her Cyfalaf Cymru, gyda’r gylchfan fynediad yn darparu mynediad uniongyrchol i Lwyfandiroedd 1 a 2. Ariannwyd y ffordd sy’n rhedeg ar hyd y safle gan Gynllun Her Cyfalaf Cymru yn ogystal.
Cyflawnwyd gwaith i wella mynediad i’r safle o Fryn Kendon, ac fe’i ariannwyd drwy Gynllun Her Cyfalaf Cymru.
Datblygiadau
Ariannwyd cam cyntaf y datblygiad ar Lwyfandir 2, sef adeiladau diwydiannol 60,000 troedfedd sgwâr, drwy Gynllun Her Cyfalaf Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop mewn cytundeb cyd-fenter rhwng y Cyngor ac Awdurdod Datblygu Cymru.
Ariannwyd ail gam datblygiad y Cyngor ac Awdurdod Datblygu Cymru gan gyllid Amcan 1 Ewrop a’r Gronfa Adfywio Lleol, ac mae’n darparu 100,000 troedfedd sgwâr o adeiladau diwydiannol o ansawdd. Gwnaeth y Cyngor ac Awdurdod Datblygu Cymru geisiadau ategol am y cyllid Ewropeaidd hwn sydd wedi darparu cynnig eiddo heb ei ail yn yr ardal.
Disodlwyd Cynllun Her Cyfalaf Cymru gan y Gronfa Adfywio Lleol, sy’n cael ei gweinyddu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.
|