Plâu
COVID-19: Due to the latest COVID-19 restrictions the Pest Control service has had to reduce it’s services to be able to react to the current situation. The reduction in service will mean that complaints/request for service will be triaged and only those we consider to be a public health risk will be actioned.
Gofyn am driniaeth i reoli pla
Os oes gennych broblemau gyda llygod mawr, rhowch wybod gan ddefnyddio'r ffurflen isod.
I ofyn am ymweliad ynglŷn â chwilod duon, llygod, gwenyn, chwain neu lau gwely, Cysylltwch â ni
Gwenyn
Mae gwenyn yn un o'r rhywogaethau pryfed pwysicaf ar y blaned. Hebddynt ni fyddai'r planhigion blodeuol yn ein cartrefi a'n gerddi yn cael eu peillio a byddai ein diwydiant amaethyddol yn cael ei ddifetha.
O ganlyniad i'w pwysigrwydd, nid ydym yn trin gwenyn.
Byddem yn argymell, oni bai eu bod yn achosi gofid mawr, y dylid gadael nythod gwenyn yn llonydd. Os na allwch fyw gyda nhw, yna mae help ar gael.
Mae’r wefan
British Beekeepers Association website yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am adnabod Gwenyn Mêl a chwilio drwy gôd post i ddarganfod casglwr haid o wenyn.
Beth sy’n rhaid i mi ei dalu?
Prisiau o 1 Ebrill 2022:
- Gwenyn meirch £36.40 a TAW fesul triniaeth (Nodwch nad ydym yn symud nythod gwag gwenyn meirch )
- Chwain £36.40 a TAW fesul triniaeth
- Llygod £52 a TAW fesul triniaeth
- Llygod mawr, chwilod duon a llau gwely – am ddim ar gyfer eiddo domestig.
- Eiddo masnachol £41.60 yr awr yn ogystal â deunyddiau
I gael manylion taliadau gwasanaethau rheoli plâu eraill cysylltwch â ni.
Os bydd angen talu am y driniaeth, bydd angen i chi dalu wrth wneud cais am yr ymweliad.
Y plâu nad ydym yn eu trin
Nid ydym yn cynnig triniaeth ar gyfer pob math o blâu, er enghraifft plâu gardd cyffredin (yn cynnwys morgrug, pryfed clustiau a phryfed lludw) a chwilod carped/ffwr. Fodd bynnag, rydym yn cynnig cyngor am ddim i’n preswylwyr ar fathau cyffredin o blâu, yn cynnwys morgrug, llygod, chwain, pryfed, chwilod a psosidiaid.