Swyddi Cyngor Caerffili

smart woman holding a laptop

Mae ein pobl wrth galon popeth a wnawn

Mae gan Gyngor Caerffili dros 8,000 o staff sy’n gweithio mewn dros 600 o wasanaethau ac yn gwasanaethu 181,000 o drigolion.

Rydyn ni’n sefydliad mawr sy’n rheoli cyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd i ariannu gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd pobl.

Mae gennym ni gyfleoedd unigryw i bobl sydd eisiau gyrfa amrywiol, hyblyg a heriol o fewn diwylliant o safon fyd-eang.

Mae gennym ni lawer iawn o yrfaoedd – o swyddi ym meysydd Adnoddau Dynol, Cyllid a Chynllunio, i arbenigwyr TG, casglwyr sbwriel a gofalyddion. Gallai eich sgiliau, eich profiad a'ch arbenigedd chi fod yn union yr hyn rydyn ni’n edrych amdano.

Os ydych chi'n teimlo y gallwch chi weithio fel rhan o dîm, lle gallwch chi ddechrau eich gyrfa chi, yna ymunwch â ni oherwydd, gyda'n gilydd, rydyn ni'n gwneud i bethau anhygoel ddigwydd.

Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn Gyflogwr Cyflog Byw

Mae'r Cyflog Byw yn gyfradd fesul awr sy'n cael ei gosod yn annibynnol a'i diweddaru'n flynyddol. Mae'n cael ei chyfrifo yn ôl costau byw sylfaenol yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni wedi dewis talu'r Cyflog Byw ar sail wirfoddol gan ein bod ni'n credu ei fod yn dda i'r Cyngor, i'r unigolyn ac i gymdeithas.

SWYDDI GWAG >
 

Ymuno â theulu Caerffili - neges gan y Prif Weithredwr

Ceisiadau newydd

Cyn ymgeisio am swyddi ar-lein, bydd angen i chi gofrestru drwy roi cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Rhaid i'ch enw defnyddiwr fod o leiaf pum nod o hyd. Rhaid i'ch cyfrinair fod o leiaf chwe nod o hyd.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd y system yn cadw eich manylion ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol. Yr unig adran y bydd rhaid i chi ei chwblhau bob tro fydd yr adran 'pam chi? dylai hyn fod yn benodol i bob cais.

Mae rhaid i chi gadw eich manylion yn gyfredol a gwneud a unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn cyflwyno cais i sicrhau bod gennym y wybodaeth gywir.

Nodwch, byddwn yn defnyddio'r cyfeiriad e-bost y byddwch yn ei roi i gysylltu â chi yn ystod y broses recriwtio.

Ceisiadau yn Gymraeg

Arbedwch gopi cyn cwblhau'r cais.

Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.