Gofal personol yn eich cartref

Mae gofal cartref yn darparu gofal ymarferol a phersonol yn eich cartref eich hun.  Byddwn yn eich cefnogi gyda thasgau bob dydd fel y gallech barhau i fyw yn eich cartref eich hun am gymaint o amser ag sy’n bosibl. Byddwn hefyd yn eich helpu gyda’ch hyder ac i adennill sgiliau er mwyn cynyddu eich annibyniaeth. 

Os ydych wedi cael eich asesu fel rhywun sy'n gymwys i dderbyn gofal a chymorth gennym ni, byddwn yn sefydlu pa ganlyniadau yr hoffech eu cyflawni, eich anghenion gofal a chymorth a sut y gellir bodloni'r rhain. 
Byddwn yn trefnu ac yn rheoli’r gofal hyn i chi, a fydd yn cael ei fonitro yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu eich anghenion gofal a’r canlyniadau a nodir.

Beth yw'r gost?

Efallai bydd gofyn i chi dalu tuag at gostau eich gofal cartref. Mae’r cyfanswm byddech yn ei dalu yn dibynnu ar faint o ofal rydych yn ei dderbyn a’ch amgylchiadau ariannol eich hun.   Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y gost cyn i ni drefnu unrhyw wasanaethau. 

Nodwch, nid ydym yn darparu gwasanaeth siopa neu domestic ac nid ydym yn gallu darparu gwasanaeth i weinyddu meddyginiaeth yn unig.  Os bydd angen cymorth arnoch gyda’r tasgau hyn, mae gwybodaeth ar gael ar ein  hadran cymorth i fyw yn eich cartref.

Cysylltwch â ni