Adroddiad blynyddol safonau'r gymraeg 2023-2024

Paratowyd yn unol â gofynion comisiynydd y gymraeg

16 mai 2024

Mae’r adroddiad hwn ar gael yn saesneg, ac mewn ieithoedd neu fformatau eraill ar gais.

This report is available in english, and in other languages and formats on request.

Cyflwyniad

Manylion Gofyniad i Adrodd Rhif y Safon Perthnasol (ac is-gymal)
Cwynion gan aelodau’r cyhoedd - Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a dderbynioch yn ystod y flwyddyn honno a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfiad â’r safonau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â nhw. 147, 148, 149,156, 158 (2),162, 164 (2),168 (a), 170 (2) (d)
Sgiliau Iaith Staff - Nifer y gweithwyr sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw (ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â safon 151). 170 (2) (a)151
Darpariaeth Hyfforddiant Cyfrwng Cymraeg - Nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddiant a gynigiwyd gennych yn Gymraeg yn ystod y flwyddyn (ar sail y cofnodion a gadwyd gennych yn unol â safon 152);Os cafodd fersiwn Gymraeg o gwrs ei chynnig gennych yn ystod y flwyddyn, canran cyfanswm nifer y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg (ar sail y cofnodion a gadwyd gennych yn unol â safon 152). 170 (2) (b)170 (2) (c)152
Recriwtio i swyddi gwag - Nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn:(i)bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol(ii)bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir i’r swydd(iii)bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol(iv)nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol(ar sail y cofnodion a gadwyd gennych yn unol â safon 154) 170 (2) (ch) 154

Ar 8 Hydref 2020, mabwysiadodd y Cyngor Gynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2020-2024. Mae chwech o'r saith Amcan Cydraddoldeb Strategol, fel y’u rhestrir isod, yn cynnwys goblygiadau'r Gymraeg:

Amcan Cydraddoldeb 1 Cynllunio a Darparu Gwasanaethau – Deall a dileu’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gyrchu gwasanaethau
Amcan Cydraddoldeb 2 Addysg, Sgiliau a Chyflogaeth – Gwella cyfleoedd addysg i bawb
Amcan Cydraddoldeb 3 Cydlyniant Cymunedol – Hybu a hwyluso cymunedau cynhwysol a chydlynol
Amcan Cydraddoldeb 4 Ymgysylltu Cynhwysol a Chymryd Rhan – Ymgysylltu â thrigolion i’w h i gymryd rhan a lleisio barn wrth gynllunio darpariaeth gwasanaethau
Amcan Cydraddoldeb 5 Y Gymraeg – Sicrhau y gall y cyhoedd sy’n siarad Cymraeg gael mynediad i wasanaethau sy'n cydymffurfio â’r gofynion statudol
Amcan Cydraddoldeb 6 Gweithlu Cynhwysol, Amrywiol a Chyfartal – Creu gweithlu sy'n adlewyrchu ac yn parchu amrywiaeth y cymunedau yn y fwrdeistref sirol

Mae Cabinet a Thîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor wedi bod yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau a dadleuon ynghylch Safonau’r Gymraeg ers mis Ionawr 2014. Mae nifer o adroddiadau a chyflwyniadau wedi’u cyflwyno er mwyn eu hysbysu’n llawn am welliannau parhaus wrth ddarparu gwasanaethau drwy’r Gymraeg.

Safonau'r gymraeg: cynllun gweithredu

Ers cyflwyno Safonau'r Gymraeg ar 30 Mawrth 2016, rydym wedi datblygu Rhaglen Waith Cydymffurfio i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwn yn unol â'r Safonau, bod staff yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau a bod ganddynt y sgiliau iaith gofynnol lle bo hynny'n bosibl.

Mae'r Rhaglen Waith Cydymffurfio wedi'i chrynhoi isod:

Gohebiaeth - safonau 4, 5 a 7

Mae'r safonau hyn yn ymwneud â gohebiaeth sy'n gorfod bod yn ddwyieithog os nad ydym yn gwybod dewis iaith neu'n anfon llythyrau at nifer o bobl ynglŷn â'r un pwnc. Rhaid i ni sicrhau bod y papur pennawd hefyd yn cydymffurfio.

Camau a gymerwyd:

  • TAFLEN FFEITHIAU i staff – Gohebiaeth Gyffredinol

Llofnodion awtomatig dwyieithog ar e-byst i'r holl staff ar e-bost ynghyd â'r datganiad canlynol:

Gallwch ohebu mewn unrhyw iaith neu fformat. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn creu unrhyw oedi.

Correspondence may be in any language or format. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.

Templedi pennawd yn eu lle

Ffôn – safonau 8, 9, 11, 14, 16, 17, 19, 20, 21 a 22

Mae'r safonau hyn yn ymwneud â sut rydym yn delio â galwadau ffôn a bod cyfarchiad dwyieithog yn cael ei roi. Rhaid i staff feddu ar y sgiliau iaith berthnasol i ddelio â galwadau yn Gymraeg, ac os nad ydynt yn gallu, eu bod yn gwybod pwy yw'r siaradwyr Cymraeg sy'n gallu delio â'r mater, a sut i drosglwyddo galwadau. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael i ddarparu'r wybodaeth bwnc-benodol, gellir cysylltu'r alwad â rhywun nad yw'n siarad Cymraeg.

Rhaid i ni ddatgan, pan rydym yn cyhoeddi prif rifau ffôn, ein bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg a rhaid i'n holl systemau ffôn awtomataidd fod yn ddwyieithog.

Camau a gymerwyd:

TAFLEN FFEITHIAU ar gyfer staff – Cyfarchion dros y Ffôn

Darparu hyfforddiant i staff i sicrhau eu bod yn gallu rhoi cyfarchion sylfaenol a darparu gwasanaethau derbynfa yn ein prif leoliadau

Cyhoeddir croeso i alwadau ffôn Cymraeg yn Newsline ers rhifyn mis Mehefin 2017.

Darparwyd staff â stondinau desg sy'n Ganllawiau Cyfeirio Cyflym

Mae negeseuon ffôn awtomataidd ar gyfer mannau gwasanaeth wedi'u recordio'n ddwyieithog

Erbyn hyn mae staff sy'n siarad Cymraeg yn gweithio i'r Ganolfan Gyswllt

Cyfarfodydd - safonau 24, 24a, 27, 27a, 27d, 29 a 29a

Mae'r safonau hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn gwahodd unigolion i gyfarfodydd a phryd y mae'n rhaid i ni gynnig cyfle iddynt ddefnyddio'r Gymraeg. Os dymunant, rhaid i ni wedyn drefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd er mwyn hwyluso'r cyfarfod hwnnw.

Os ydych yn gwahodd mwy nag un unigolyn i gyfarfod, rhaid gofyn i bawb a ydynt yn dymuno defnyddio'r Gymraeg. Fodd bynnag, os bydd o leiaf 10% yn dymuno defnyddio'r Gymraeg, yna rhaid trefnu cyfieithu ar y pryd. Os yw'n llai na 10%, rhaid rhoi gwybod i'r siaradwyr Cymraeg nad yw'n ofynnol ar yr achlysur hwn i ni fodloni eu cais i siarad Cymraeg yn y cyfarfod.

Os bydd y cyfarfod â'r unigolyn o ran ei les, a'i fod yn dymuno siarad Cymraeg, yna rhaid darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd er mwyn i'r unigolyn allu siarad yn ei ddewis iaith. Rhaid cynnal cyfarfodydd lles gyda chyfieithu ar y pryd os bydd unrhyw un sy'n mynychu wedi gofyn iddynt ddefnyddio'r Gymraeg.

Camau a gymerwyd:

TAFLEN FFEITHIAU ar gyfer staff – Cyfarfodydd gydag unigolion

Wrth wahodd unigolion i gyfarfod, mae'n ofynnol i wasanaethau gynnwys brawddeg safonol yn gofyn am eu dewis iaith ac a ydynt yn dymuno defnyddio neu gynnal y cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg

Defnyddio MS Teams ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus sydd bellach â'r swyddogaeth cyfieithu ar y pryd

Cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus – safonau 30, 31, 32, 33, 34, 35 a 36

Rhaid i unrhyw hysbyseb neu hysbysiad sy'n rhoi cyhoeddusrwydd i gyfarfodydd/ digwyddiadau/gweithgareddau cyhoeddus ddatgan y gellir defnyddio'r Gymraeg.

Rhaid anfon unrhyw wahoddiadau i gyfarfodydd/digwyddiadau/gweithgareddau cyhoeddus yn Gymraeg a Saesneg a rhaid i'r holl ddeunydd a arddangosir yn y cyfarfod cyhoeddus fod yn ddwyieithog, Cymraeg yn gyntaf.

Rhaid gofyn i unrhyw siaradwyr mewn cyfarfodydd/digwyddiadau/gweithgareddau cyhoeddus os ydynt yn dymuno defnyddio'r Gymraeg, ac os felly, rhaid trefnu cyfieithu ar y pryd. Rhaid hysbysu ar lafar i bawb sy'n mynychu cyfarfod cyhoeddus/digwyddiad/ gweithgaredd bod croeso iddynt ddefnyddio'r Gymraeg a bod cyfieithu ar y pryd ar gael i'r di-Gymraeg.

Camau a gymerwyd:

TAFLEN FFEITHIAU i staff – Cyfarfodydd Cyhoeddus

Taflen ffeithiau ar gyfer staff – Cynllunio Digwyddiadau

Fframwaith Cyfieithu a Dehongli ar waith ers mis Mai 2017 ar gyfer ceisiadau cyfieithu ar y pryd. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweithio ar ddatblygu System Prynu Deinamig sy'n caniatáu mwy o hyblygrwydd i ychwanegu darparwyr newydd ar unrhyw adeg

Defnyddio MS Teams ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus sydd bellach â'r swyddogaeth cyfieithu ar y pryd.

Gofynnwn i bobl roi gwybod i ni am eu dewis iaith, boed yn Iaith Arwyddion Prydain, Cymraeg neu iaith arall, cyn cyfarfod cyhoeddus neu ddigwyddiad, fel y gallwn drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Agendâu, cofnodion a dogfennau cyhoeddus eraill – safonau 41 a 47

Mae'r Safonau hyn yn ymwneud â chynhyrchu'r dogfennau canlynol yn Gymraeg:

  • Agendâu a chofnodion i'r Cabinet
  • Agendâu a chofnodion ar gyfer Pwyllgor Craffu Addysg Gydol Oes a'r Cyngor Llawn

Yn ogystal, os cynhyrchir dogfen at ddefnydd y cyhoedd, ac nad yw'n cael ei dal gan unrhyw Safon arall, rhaid ei chynhyrchu yn Gymraeg os yw'r pwnc yn awgrymu y dylid ei chynhyrchu yn Gymraeg, neu os yw'r gynulleidfa a ragwelir a'u disgwyliadau yn awgrymu y dylid ei chynhyrchu yn Gymraeg e.e. adroddiadau yn ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg neu’r iaith Gymraeg.

Camau a gymerwyd:

Mae llunio agendâu a chofnodion ar gyfer y Cabinet, Pwyllgor Craffu Addysg Gydol Oes a'r Cyngor Llawn yn Gymraeg yn arfer cyfredol

Cyhoeddiadau cyffredinol – safonau 42, 43, 44, 45, 46 a 47

Mae'r Safonau hyn yn ymwneud â'r canlynol sy'n cael eu cynhyrchu yn Gymraeg os ydynt ar gyfer y cyhoedd neu'n darparu gwybodaeth i'r cyhoedd:

Trwyddedau, tystysgrifau, pamffledi, cardiau, polisïau, strategaethau, adroddiadau blynyddol, cynlluniau corfforaethol, canllawiau, codau ymarfer neu unrhyw reolau sy'n berthnasol i'r cyhoedd

Rhaid i unrhyw ddatganiad yr ydym yn ei roi i'r wasg fod yn ddwyieithog oni bai bod y datganiad yn cael ei gyhoeddi yn ystod "argyfwng" fel y'i diffinnir yn Adran 1 - Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.

Os cynhyrchir dogfen at ddefnydd y cyhoedd, ac nad yw'n cael ei dal gan unrhyw safon arall, rhaid ei chynhyrchu yn Gymraeg os yw'r pwnc yn awgrymu y dylid ei chynhyrchu yn Gymraeg neu os yw'r gynulleidfa a ragwelir a'u disgwyliadau yn awgrymu y dylid ei chynhyrchu yn Gymraeg.

Camau a gymerwyd:

Mae cynhyrchu trwyddedau, tystysgrifau, pamffledi, cardiau, polisïau, strategaethau, adroddiadau blynyddol, cynlluniau corfforaethol, canllawiau, codau ymarfer neu unrhyw reolau sy'n berthnasol i'r cyhoedd, yn Gymraeg, eisoes yn arfer cyfredol

Mae'r Tîm Cyfathrebu yn ymwybodol o gyhoeddi datganiadau cyhoeddus

Dogfennau ymgynghori – safonau 44, 91, 92 a 93

Rhaid i ddogfennau ymgynghori fod yn ddwyieithog a rhaid iddynt ystyried a cheisio barn am:

beth fyddai'r effeithiau, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, y byddai'r cynnig yn eu cael ar; neu

sut y gellid datblygu'r cynnig neu ei ddiwygio fel na fyddai'n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai'n cael effeithiau llai andwyol ar:

cyfleoedd i bersonau ddefnyddio'r Gymraeg, a

peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Camau a gymerwyd:

Mae'r broses Asesu Effaith Integredig yn cynnwys adran benodol ar yr iaith Gymraeg ac ymgynghori, ac yn gofyn a roddwyd ystyriaethau i'r Gymraeg yn ystod y broses ymgynghori

Mae Rhestr Wirio Iaith Gymraeg mewn Ymgynghoriad wedi'i drafftio fel bod pob swyddog sy'n cynnal ymarferion ymgynghori yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau. Mae cyngor a chefnogaeth ar gael gan y timau Ymgysylltu/Cydraddoldeb a'r Gymraeg

Gwefan, cyfryngau cymdeithasol a dyfeisiau electronig – safonau 52, 56, 58 a 60

Rhaid i bob tudalen ar wefan y Cyngor fod yn ddwyieithog, yn gwbl weithredol ac nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r tudalennau Saesneg. Rhaid i'r rhyngwyneb a'r dewislenni ar y tudalennau fod yn ddwyieithog.

Rhaid i unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy’n perthyn i'r Cyngor beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Rhaid i beiriannau hunanwasanaeth beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol e.e. peiriannau tocynnau parcio.

Camau a gymerwyd:

Cwblhawyd archwiliad o'r wefan gyfan a'i swyddogaeth ym mis Medi 2019.

Hysbyswyd staff o'r broses ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth ddwyieithog ar wefan y Cyngor

Mae Canllawiau Defnydd Cyfryngau Cymdeithasol yn cynnwys adran ar Safonau'r Gymraeg

Gofynnwyd i’r Meysydd Gwasanaeth â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gydnabod yr angen i gydymffurfio. Mae'r canllawiau hyn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd ac mae'r adran ar yr iaith Gymraeg yn cael ei chryfhau i gynnwys gwybodaeth am y mannau lle mae materion cydymffurfio wedi'u nodi ar hyn o bryd

Mae unrhyw faterion ar unrhyw dudalennau gwe yn cael eu gweithredu ar frys

Mae peiriannau parcio yn rhoi'r dewis i bobl ddewis Iaith

Mae archwiliad o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol corfforaethol ar waith ac atgoffir staff am gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg

Mae llwyfan PublicAccess wedi'i uwchraddio gan yr Adran Gynllunio yn galluogi pobl i chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio yn Saesneg ac yn Gymraeg

Mae gwefan newydd ar gam olaf y broses dendro. Bydd y wefan newydd yn hygyrch a bydd hefyd yn ystyried gofynion Safonau Iaith perthnasol

Arwyddion cyhoeddus – safonau 62, 67, 70, 141, 142 a 143

Rhaid i arwyddion newydd ac o'r newydd fod yn ddwyieithog a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg ac mae'n rhaid gosod y Gymraeg felly mae'n debygol o gael ei darllen gyntaf.

Camau a gymerwyd:

Mae arwyddion newydd ac arwyddion newydd yn cydymffurfio

TAFLEN FFEITHIAU – Arwyddion

Mae'r holl waith cyfieithu a dderbynnir yn cael ei ddychwelyd yn y fformat cywir. Mae hyn yn arfer presennol

Llawlyfr Safonau'r Gymraeg ar gyfer Arwyddion Gwaith CBSC a gynhyrchwyd mewn ymateb i nifer y ceisiadau am wasanaeth a dderbyniwyd ynghylch arwyddion gwaith nad ydynt yn cydymffurfio. Rhannwyd hyn gyda swyddogion ac is-gontractwyr

Mae arwyddion a ddatblygwyd ar gyfer adeiladau'r Cyngor wedi'u cynllunio gan Dîm Dylunio Graffig mewnol y Cyngor, sy'n cael eu briffio'n llawn ar Safonau'r Gymraeg, ac sy'n anfon proflenni i'r Tîm Cyfieithu cyn i'r arwyddion gael eu creu

Ymwelwyr ag adeiladau – safonau 64, 65, 65, 65a, 67 a 68

Rhaid darparu gwasanaeth derbyn dwyieithog yn adeiladau'r Cyngor canlynol ac ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg:

  • Tŷ Penallta
  • Llyfrgelloedd Bargoed, Rhisga, Rhymni, y Coed Duon, Caerffili ac Ystrad Mynach
  • Canolfan Ymwelwyr Caerffili
  • Maenordy Llancaiach Fawr
  • Gwasanaethau Cofrestru
  • Canolfannau hamdden Caerffili, Heolddu, Trecelyn a Rhisga

Rhaid arddangos arwyddion ar dderbynfeydd sy'n nodi y gellir defnyddio'r Gymraeg. Mae'n rhaid i staff sy'n siarad Cymraeg mewn derbynfeydd arddangos bathodyn yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Camau a gymerwyd:

  • Mae gwasanaethau mewn derbynfeydd i'r cyhoedd drwy apwyntiad yn unig erbyn hyn. Gofynnir am ddewis iaith ar y cyswllt cyntaf ac mae siaradwr Cymraeg ar gael ar gyfer yr apwyntiad pe bai hynny'n ddewis Iaith
  • Rhaglen hyfforddi wedi'i chwblhau ar gyfer staff yn y dderbynfa yn Nhŷ Penallta a'r Ganolfan Gyswllt. Mae hyfforddiant pellach yn cael ei gyflwyno ynghyd â chefnogaeth barhaus
  • Cymraeg Gwaith - Cwrs ar-lein 10 awr wedi'i gyflwyno i staff ers mis Medi 2018
  • Mae pob lleoliad a restrir o dan Safon 64 wedi cael y poster 'Iaith Gwaith' i'w arddangos mewn derbynfeydd sy'n nodi bod gwasanaeth Cymraeg ar gael
  • Gwybodaeth ar gael i staff ar dudalen Cydraddoldeb a’r Gymraeg ar y fewnrwyd
  • Mae pob dysgwr a siaradwr Cymraeg wedi derbyn cortyn gwddf neu fathodyn 'Iaith Gwaith'

Dyfarnu grant – safonau 71, 72 a 72a

Rhaid i ffurflenni cais am grantiau fod yn ddwyieithog. Rhaid i unrhyw beth a gyhoeddir ynghylch grant ddatgan y gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac na fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r Saesneg, mae hyn yn cynnwys amserlenni a bennir i'w hasesu ac ati.

Camau a gymerwyd:

TAFLEN FFEITHIAU ar gyfer staff – Grantiau

Polisi ar Grantiau Dyfarnu

Cyrsiau addysg – safonau 84 ac 86

Rhaid cynnig cyrsiau addysg yn Gymraeg oni bai bod asesiad o dan Safon 86 wedi'i gynnal.

Camau a gymerwyd:

Gofyn i bobl a ydynt yn dymuno derbyn y cwrs yn Gymraeg ar adeg y cofrestru neu ymholi ac yna asesu'r galw am y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg

Cyhoeddiadau cyhoeddus - safon 87

Rhaid i bob cyhoeddiad cyhoeddus fod yn ddwyieithog gyda'r Gymraeg yn gyntaf.

Camau a gymerwyd:

Mae profion larwm tân a negeseuon munud o dawelwch yn ddwyieithog

Gwagio mewn argyfwng – Saesneg yn unig

Rydyn ni’n gweithio gyda’r Tîm Digwyddiadau i sicrhau bod pob neges annerch cyhoeddus yn ddwyieithog, Cymraeg yn gyntaf i bob digwyddiad

Mae negeseuon cyfeiriad cyhoeddus awtomataidd llyfrgelloedd yn cydymffurfio'n llawn

Llunio polisi – safonau 88, 89 a 90

Rhaid i bolisïau newydd, diwygiedig neu adolygedig ystyried yr effaith y bydd y polisi yn ei chael ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ni ddylent drin y Gymraeg yn llai ffafriol.

Camau a gymerwyd:

Mae Asesiad Effaith Integredig wedi'i weithredu ers 1 Ebrill 2021 ac fe'i datblygwyd gan ddefnyddio canllawiau Comisiynydd y Gymraeg ar y Safonau Gwneud Polisi. Mae'r asesiad effaith nawr yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion roi mwy o ystyriaeth i'r effaith ar y Gymraeg wrth ddatblygu cynigion a pholisïau

Mae dogfen gyngor arfer da Comisiynydd y Gymraeg wedi’i chyhoeddi ar dudalen y Gymraeg a Chydraddoldeb ar y fewnrwyd i staff ei gweld

Dogfen gyngor a recordiadau o’r Seminar: Ystyried yr effeithiau wedi’u cyhoeddi ar Fewnrwyd ac mae Rhwydwaith Rheolaeth y Cyngor yn ymwybodol o’r wybodaeth hon

Prosesau ad – safonau 99, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 112, 112a, 114, 115, 116, 116a, 118, 119

Rhaid i ni sicrhau bod ein prosesau recriwtio ac Adnoddau Dynol mewnol ar gael yn Gymraeg, lle rydym yn gofyn am ddewis iaith ymgeiswyr a staff, ac yn cyfathrebu â nhw yn yr iaith o'u dewis. I staff, mae hyn yn cynnwys unrhyw ddisgyblaeth, cwynion, prosesau cwyno ac argaeledd rhai Polisïau Adnoddau Dynol yn Gymraeg.

Camau a gymerwyd:

Gweler y diweddariad recriwtio yn Adran 6

Mae nifer o ffurflenni a pholisïau Adnoddau Dynol ar gael i staff yn Gymraeg ar y Borthol AD ar y fewnrwyd

Mae’r Tîm Cydraddoldeb a’r Gymraeg eisoes yn cynnal ac yn cofnodi cyfarfodydd un-i-un ac Adolygiadau Datblygu Perfformiad yn Gymraeg gyda staff.

Mewnrwyd / tudalennau rhyngrwyd - safonau 122 a 124

Rhaid i'r dudalen gartref fewnrwyd fod yn ddwyieithog, yn gwbl weithredol a thrin y Gymraeg ddim yn llai ffafriol. Rhaid i dudalennau Saesneg nodi bod tudalen Gymraeg gyfatebol ar gael, gyda dolen os yw'n berthnasol.

Camau a gymerwyd:

Mae mewnrwyd ddwyieithog bellach yn arfer gyfredol. Yn dilyn lansio ein mewnrwyd newydd i staff, rydym wrthi'n mireinio'r tudalennau i sicrhau bod pob tudalen yn gwbl hygyrch yn y Gymraeg a'r Saesneg

Mae adran benodol ar y fewnrwyd ar gyfer gwybodaeth Gymraeg i staff ei chyrchu, ynglŷn â Safonau'r Gymraeg, hyfforddiant iaith Gymraeg a gwybodaeth am gyfieithu Cymraeg

Mae nifer o ffurflenni a pholisïau AD ar gael i staff yn Gymraeg ar Borthol AD ar y Fewnrwyd

Hyfforddiant cymraeg a chyfathrebu â staff – safonau 128, 129, 130, 133, 134 a 135

Rhaid i ni ddarparu hyfforddiant yn Gymraeg i staff os caiff ei ddarparu yn Saesneg ar: recriwtio, rheoli perfformiad, cwynion, disgyblu, cynefino, delio â'r cyhoedd, iechyd a diogelwch, ar ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd, cyfweliadau, cwynion ac yn ystod gweithdrefnau disgyblu.

Rhaid rhoi cyfleoedd i staff mewn oriau gwaith i dderbyn gwersi Cymraeg sylfaenol ac, i weithwyr sy'n rheoli eraill, i gael hyfforddiant ar ddefnyddio'r Gymraeg yn eu rôl fel rheolwyr.

Mae'n rhaid i ni roi gwybodaeth i weithwyr newydd am yr iaith Gymraeg a'r testun neu'r logo i weithwyr sy'n siarad Cymraeg eu defnyddio mewn llofnodion e-bost sy'n nodi eu bod yn barod i ddefnyddio'r Gymraeg, boed yn rhugl neu fel dysgwr.

Rhaid i fersiwn Cymraeg o fanylion cyswllt mewn negeseuon e-bost a negeseuon Allan o'r Swyddfa fod yn Gymraeg hefyd.

Camau a gymerwyd:

Taflen ffeithiau ar gyfer staff – AD

Pe bai unrhyw geisiadau am hyfforddiant yn cael eu derbyn, byddem yn gweithio gyda chynghorau cyfagos i wneud cyrsiau'n hyfyw

Mae'r rhaglen hyfforddiant Cymraeg flynyddol a ddarperir ers 2001, yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gwahanol i staff, gan gynnwys cyrsiau ar-lein, hunan-astudio, preswyl, wythnosol ac ymwybyddiaeth o'r Gymraeg. Cyflawnodd 107 o ddysgwyr y cyrsiau hyn yn ystod 2023-2024

Dylid cynnwys gwybodaeth am y Gymraeg mewn Pecynnau Ymsefydlu Adnoddau Dynol. Mae'r Tîm Cydraddoldeb a'r Gymraeg ar hyn o bryd yn ymwneud â datblygu Rhaglen Sefydlu newydd ar gyfer dechreuwyr newydd. Maen nhw hefyd wrthi’n trafod datblygu system rheoli dysgu newydd ar gyfer e-ddysgu, gyda’r bwriad bod elfennau o gydraddoldeb a’r Gymraeg yn hanfodol i’r holl staff eu cwblhau

Mae'r Tîm Cydraddoldeb a'r Iaith Gymraeg yn rhan o'r Rhaglen Ymsefydlu Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer dechreuwyr newydd

Mae TG wedi rhoi llofnod awtomatig dwyieithog i'r holl staff ar gyfer pob e-bost

Nid yw TG wedi gallu cyn-boblogi neges e-bost ddwyieithog y tu allan i'r swyddfa, felly crëwyd cardiau stondinau desg i'r holl staff godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad i sicrhau bod eu negeseuon y tu allan i'r swyddfa yn ddwyieithog

Arwyddion yn y gweithle – safonau 141,142 a 143

Rhaid i arwyddion newydd ac adnewyddedig fod yn ddwyieithog a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg a rhaid gosod y Gymraeg felly mae'n debygol o gael ei darllen gyntaf.

Camau a gymerwyd:

Mae pob arwydd sy'n wynebu'r cyhoedd yn ddwyieithog ac os cynhyrchir rhai newydd neu adnewyddedig mae’r Gymraeg yn gyntaf

Mae arwyddion a ddatblygwyd ar gyfer adeiladau'r Cyngor wedi'u cynllunio gan Dîm Dylunio Graffig mewnol y Cyngor, sy'n cael eu briffio'n llawn ar Safonau'r Gymraeg, ac sy'n anfon proflenni i'r Tîm Cyfieithu cyn i'r arwyddion gael eu creu

Strategaeth y gymraeg – safonau 145 a 146

Mae'n rhaid i ni gynhyrchu a chyhoeddi ar y wefan, strategaeth 5 mlynedd sy'n nodi sut rydym yn bwriadu hyrwyddo'r Gymraeg a hwyluso ei defnydd yn ehangach yn y fwrdeistref sirol. Rhaid i'r Strategaeth gynnwys –

  1. targed (o ran canran y siaradwyr yn eich ardal) ar gyfer cynyddu neu gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn eich ardal erbyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd dan sylw, a
  2. datganiad yn nodi sut rydych yn bwriadu cyrraedd y targed hwnnw; a rhaid i chi adolygu'r strategaeth a chyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ar eich gwefan o fewn 5 mlynedd o gyhoeddi strategaeth (neu o gyhoeddi strategaeth ddiwygiedig).

Camau a gymerwyd:

Cliciwch yma i weld

Cwynion - safonau 147, 148, 149, 156, 158 (2), 162, 164 (2), 168 (a), 170 (2) (d)

Rhaid i ni gadw cofnod o nifer y cwynion a dderbynnir sy'n ymwneud â chydymffurfio â'r Safonau.

Camau a gymerwyd:

Adroddir yn flynyddol yn Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg, sy'n cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn. Gweler Adran 4 – Cwynion gan y Cyhoedd

Ychwanegwyd categorïau cydraddoldeb a'r Gymraeg i'r system gwynion fel y gallwn fonitro os oes gan unrhyw gwynion elfen cydraddoldeb neu iaith Gymraeg. Bydd hyn yn helpu gydag adroddiadau blynyddol ac i nodi unrhyw dueddiadau

Bydd Rhaglen Gwyno newydd yn mynd yn fyw ym mis Ebrill 2024, lle bydd cwynion a cheisiadau am wasanaeth ar draws y Cyngor i gyd yn cael eu cynnal yn ganolog. Mae'r rhaglen newydd yn cynnwys opsiwn i ddewis a yw'r Gymraeg neu Gydraddoldeb yn elfennau o unrhyw gwynion a cheisiadau am wasanaeth. Wrth symud ymlaen bydd hyn yn ei gwneud yn haws tynnu adroddiadau i lawr i'w cynnwys mewn adroddiadau blynyddol statudol ar gydraddoldeb a'r Gymraeg

Rhoi cyhoeddusrwydd i gydymffurfio – safonau 161, 167, a 163

Rhaid i ni gyhoeddi dogfen ar y wefan sy'n nodi'r safonau llunio polisi y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â nhw a sut rydym yn gwneud hynny, a rhaid i hyn fod ar gael ym mhob swyddfa sydd ar agor i'r cyhoedd.

Rhaid i ni gyhoeddi dogfen ar y wefan sy'n nodi'r safonau gweithredol y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â nhw a sut rydym yn gwneud hynny, a rhaid i hyn fod ar gael ym mhob swyddfa sydd ar agor i'r cyhoedd.

Mae'n rhaid bod gennym drefniadau ar waith i oruchwylio cydymffurfiaeth â'r safonau llunio polisi, cyhoeddi'r trefniadau ar y wefan a sicrhau bod y ddogfen ar gael ym mhob swyddfa ar agor i'r cyhoedd.

Camau a gymerwyd:

Hysbysiad Cydymffurfio ar y wefan i ganiatáu delio ag unrhyw ymholiadau gan y cyhoedd drwy ddefnyddio'r rhyngrwyd ar eu rhan

Sgiliau iaith staff – safonau 151 a 170 (2) (a)

Rhaid i ni gadw cofnod (yn dilyn asesiad) o nifer y gweithwyr sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol i gynnwys y lefel sgiliau.

Camau a gymerwyd:

Yn dilyn gohebiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg, ac fel yr amlinellwyd yn ein hymateb dyddiedig 22 Chwefror 2022, datblygwyd blaengynllun gwaith i fynd i'r afael â nifer o faterion brys yn ymwneud â recriwtio, gan gynnwys cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.

Mae Awdit Sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2024

Hyfforddiant iaith gymraeg – safonau 152, 170 (2) (b) a 170 (2) (c)

Rhaid i ni gadw cofnod o nifer y staff sy'n mynychu cyrsiau hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg a chanran cyfanswm y staff a fynychodd gwrs yn Gymraeg. Gweler Adran 5 yr adroddiad hwn.

Recriwtio – safonau 154, 170 (2) (ch) a 154

Rhaid i ni gadw cofnod o nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi:

  1. Sgiliau Cymraeg yn hanfodol
  2. Roedd angen dysgu sgiliau Cymraeg wrth eu penodi i'r swydd
  3. Sgiliau Cymraeg yn ddymunol
  4. Nid oes angen sgiliau Cymraeg

Camau a gymerwyd:

Adroddir ar Sgiliau Iaith Staff, Darpariaeth Hyfforddiant a Recriwtio Cymraeg bob blwyddyn yn Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg, a gyhoeddir ar wefan y Cyngor erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn. Gweler Adrannau 4, 5 a 6 am fanylion

Hyrwyddo

Er mwyn annog defnydd o’r iaith yn y fwrdeistref sirol, rydym yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau hyrwyddo gyda staff a’r cyhoedd. Drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni’n dewis dyddiadau allweddol i achub ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth o rai o’r negeseuon allweddol sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Diwrnod shwmae / su'mae

Yn dilyn cwrs 10 wythnos i staff yng Nghartref Preswyl Tŷ Iscoed, siaradon ni â’r trigolion am yr iaith Gymraeg a'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw. Roedd y cwrs yn llwyddiant mawr gyda'r staff a gymerodd ran yn gallu mynegi eu hunain gan ddefnyddio ymadroddion sylfaenol erbyn hyn.

Mae gen i hawl / defnyddia dy gymraeg

Ym mis Rhagfyr, cyflwynon ni gyfres o negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn annog aelodau o'r cyhoedd i ddefnyddio eu Cymraeg gyda staff y cyngor, gan ymgorffori deunyddiau ymgyrch Comisiynydd y Gymraeg.

Hefyd, cynhalion ni’r Clwb Clebran a gwahodd Coleg Gwent i ymuno â ni ar Ddiwrnod Hawliau'r Gymraeg. Mae’r Clwb yn ein helpu i annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg lle bynnag y bo modd a hefyd gofrestru staff ar gyrsiau. Aethon ni ati i recordio staff yn ystod y digwyddiad yn siarad am bwysigrwydd y Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd a phostio am hyn ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Dydd santes dwynwen

Ar Ddydd Santes Dwynwen 2024, cyflwynon ni bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda dolenni yn egluro stori Santes Dwynwen ac yn annog aelodau'r cyhoedd i ddefnyddio ymadroddion Cymraeg.

Dydd gŵyl dewi

Ar 1 Mawrth, cyhoeddon ni 2 neges ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn gyntaf yn ymwneud â Dydd Gŵyl Dewi a sut y gall pobl gymryd rhan yn ymgyrch genedlaethol #PethauBychain gan gynnwys dolen i fwy o wybodaeth a fideo YouTube.

Roedd yr ail yn ymgorffori'r diwrnod fel rhan o neges ehangach y Cyngor Bwrdeistref Sirol i annog preswylwyr i ailgylchu eu bwyd.

Cyfathrebu â phreswylwyr - e-bost yr holl staff - gwybodaeth bwysig am gyfieithu cymraeg a chanllaw arfer da i gyfathrebu â phreswylwyr

Ym mis Chwefror, anfonwyd e-bost at yr holl staff yn atgoffa staff o'u cyfrifoldebau wrth gyfathrebu â phreswylwyr mewn perthynas â chynhyrchu cyfathrebiaeth hygyrch a dwyieithog. Rhannwyd gwybodaeth bellach hefyd gyda staff ynghylch ceisiadau am gyfieithiadau Cymraeg a'r amserlenni i'w hystyried wrth gynllunio darnau mawr o waith, y byddai angen eu cyfieithu cyn eu cyhoeddi. Mae pob canllaw o’r natur hwn ar gael i staff ar Fewnrwyd y Cyngor.

Mae'r "Cyfathrebu â Phreswylwyr - Canllaw Arfer Da" yn ddogfen ganllaw sy'n darparu gwybodaeth a chyngor pwysig i staff ar ble mae cydraddoldeb, yr iaith Gymraeg a rheoliadau hygyrchedd o bwys. Hysbyswyd staff bod yn rhaid ystyried y rhain wrth baratoi dogfennau a gwybodaeth y Cyngor, a hefyd wrth gyfathrebu â’n preswylwyr.

Pride caerffili

Ym mis Mehefin 2023, cynhaliodd Cyngor Caerffili y digwyddiad balchder cyntaf dan arweiniad y cyngor yng Nghymru, yng nghanol tref Caerffili.

Arweiniwyd y digwyddiad gan y Tîm Cydraddoldeb a’r Gymraeg, ynghyd â nifer o feysydd gwasanaeth y cyngor, Cynghorwyr a rhanddeiliaid eraill. Roedd pwyslais mawr ar sicrhau bod y digwyddiad yn ddwyieithog, o'r brandio, agendâu'r gweithgorau dwyieithog, a hyd yn oed cael arweinydd Cymraeg ei hiaith ar y brif lwyfan yn ystod y digwyddiad.

Roedd Mr. Urdd hefyd yn bresennol yn y digwyddiad gan ddangos cefnogaeth, ac roedd safle'r digwyddiad yn orlawn o ymwelwyr o bob rhan o'r sir a thu hwnt. Trefnwyd ardal ieuenctid yn y bandstand, gyda nifer o ysgolion, gan gynnwys Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, yn perfformio. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i ddangos bod gan y Gymraeg le yn y gymuned LHDTC+.

Gwasanaethau a diwrnodau gyrfaoedd

Gwobrau partneriaid gwerthfawr

Yng Nghyngor Caerffili, rydym yn ymfalchïo yn ein partneriaethau wrth weithio â sefydliadau allanol. Ers blynyddoedd bellach, rydym wedi gweithio’n agos gyda Gyrfa Cymru i fynd i ysgolion a chynnal gweithdai a gwasanaethau ar y Gymraeg yn y gweithle.

Eleni, cafodd ein gwaith ei gydnabod gan sefydliad Gyrfa Cymru drwy gael ein henwebu a’n rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr. Er na chipion ni’r wobr, roedd yn gamp fawr cael ein cydnabod am y gwaith rydym wedi'i wneud dros y blynyddoedd ac yn parhau i’w wneud mewn nifer o ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol.

Dros y flwyddyn, gwnaethon ni nifer o gyflwyniadau i ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 ar draws nifer o ysgolion yn esbonio sut mae'r iaith yn cael ei defnyddio fel rhan o waith dyddiol. Roedd yr holl sesiynau hyn yn cynnwys hyrwyddo cyfleoedd gyrfaoedd a phrentisiaethau o fewn y Cyngor, yn aml yn rhoi cyfle i'r disgyblion ofyn cwestiynau neu ddefnyddio eu dyfeisiau i chwilio ar wefan y Cyngor am gyfleoedd swyddi a phrentisiaethau cyfredol.

Ysgol gyfun martin sant

Ym mis Gorffennaf, mynychodd yr Uwch Swyddog Polisi a’r Swyddog Polisi Cydraddoldeb a'r Gymraeg ddiwrnod yn Ysgol Martin Sant i gymryd rhan mewn digwyddiad carwsél a oedd yn cynnwys disgyblion yn symud o gyflogwr i gyflogwr, gan ofyn cwestiynau am y defnydd o'r Gymraeg a'i phwysigrwydd yn y gweithle.

Ysgol gyfun cwm rhymni

Mae gan y tîm Cydraddoldeb a'r Gymraeg berthynas hirsefydlog ag Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a gofynnir i ni yn aml i gynnal gwasanaethau a diwrnodau gyrfaoedd. Yn haf 2023, aethon ni i mewn i’r ysgol i gynnal gweithdai gyda disgyblion Blwyddyn 11 ar Stereoteipio a Dangos Parch, oedd yn cynnwys elfennau o misogyny. Ym mis Tachwedd 2023 a mis Chwefror 2024 cynhalion ni hefyd wweithdy gyrfaoedd gyda Chyngor Caerffili gyda myfyrwyr Blwyddyn 10, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd eu sgiliau Cymraeg i'r Cyngor a darpar gyflogwyr eraill.

Ysgol uwchradd islwyn ac ysgol gymunedol sant cenydd

Ym mis Tachwedd 2023, cynhaliodd y tîm Cydraddoldeb a’r Gymraeg wasanaeth yn Ysgol Uwchradd Islwyn gyda disgyblion blwyddyn 11 ac eto ym mis Mawrth 2024 yn Ysgol Gymunedol Sant Cenydd gyda disgyblion blwyddyn 10. Gwnaed y gwaith hwn trwy Gyrfa Cymru yn hyrwyddo'r Gymraeg yn y gweithle, yn enwedig mewn swyddi yng Nghyngor Caerffili. Mae pob un o’r disgyblion hyn yn astudio cwrs byr Cymraeg o leiaf ar lefel TGAU.

Ystadegau y gymraeg 2023-2024

  • Nifer y ceisiadau cyfieithu a dderbyniwyd..................................4,294
  • Nifer y ceisiadau cyfieithu a anfonwyd yn allanol........................60
  • Nifer y geiriau a gyfieithwyd yn fewnol......................................2,175,562
  • Nifer y geiriau a gyfieithwyd yn allanol......................................632,856
  • Nifer y staff sy'n dysgu Cymraeg...............................................96
  • Nifer yr Ymchwiliadau Iaith Gymraeg ers 2016...........................13

Cwynion gan y cyhoedd

Ymchwiliadau comisiynydd y gymraeg

Rydym yn defnyddio'r adran hon o'r adroddiad i fanylu ar unrhyw ymchwiliadau gan Gomisiynydd y Gymraeg. Yn ystod 2023-2024, cawsom 0 ymchwiliad newydd am y bumed flwyddyn yn olynol.

Gall aelodau'r cyhoedd weld Gweithdrefn Gwynion y Cyngor ar gyfer delio â chwynion a wneir drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ein gwefan gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol:

https://www.caerffili.gov.uk/my-council/strategies,-plans-and-policies/equalities/welsh-language-standards?lang=cy-gb

Cwynion a cheisiadau am wasanaeth

Cwynion corfforaethol yw'r rhai sy'n deillio o fethiant proses neu fethiant i weithredu polisi'r Cyngor yn gywir. Cwynion yw'r rhain y gellid eu hanfon ymlaen yn y pen draw at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus neu Gomisiynydd y Gymraeg, er enghraifft.

Ymdrinnir â materion cod ymddygiad sy'n ymwneud ag ymddygiad neu agwedd staff drwy brosesau mewnol y Gwasanaethau Pobl. Fodd bynnag, mae cydraddoldeb a chwynion Cymraeg yn rhywbeth o hybrid, gan y gallai methiant proses fod o ganlyniad i agweddau neu farn aelod o staff tuag at grŵp penodol er enghraifft.

Mae gan Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor 2024-2028 amcan penodol, sy'n ymrwymo'r Cyngor i ddefnyddio ei geisiadau gwasanaeth a'i ddata cwynion i:

Amcan Cydraddoldeb 1 – Mae meysydd gwasanaeth yn ymateb i bob cwyn sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb mewn modd amserol, ac yn dysgu oddi wrthynt

Yn ystod 2023-2024, derbyniwyd 0 cwyn a 2 gais am wasanaeth yn ymwneud â'r Gymraeg. Roedd y ddau gais am wasanaeth yn cynnwys y canlynol:

Manylion y Ceisiadau am Wasanaeth Datrysiad
Roedd byrddau arddangos Cymraeg ar gyfer digwyddiad ymgysylltu Hwb Hamdden a Lles 2026 yn anghywir. Cysylltodd ymgynghorwyr i gywiro'r teitlau ac i sicrhau bod yr holl destun Cymraeg yn cael ei brawfddarllen gan y Tîm Cyfieithu cyn ei gyhoeddi.
Gwybodaeth Iechyd a Diogelwch uniaith Saesneg ynghylch rheoli meddyginiaethau, a rennir gan yr ysgol gyda rhiant mewn ysgol cyfrwng Cymraeg. Ni ddylai'r ysgol fod wedi rhannu'r wybodaeth hon gyda'r rhieni. Mae'r Tîm Iechyd a Diogelwch yn cyfieithu'r holl bolisïau a gweithdrefnau a byddant yn rhannu gyda phob ysgol unwaith y byddant wedi'u cwblhau.

Cwynion a cheisiadau am wasanaeth yn ôl cyfadran

CYFADRAN CWYNION CEISIADAU AM WASANAETH
Economi a'r Amgylchedd 0 1
Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol 0 1
Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai 0 0
CYFANSYMIAU 0 2

Sgiliau iaith staff

Mae'r gallu i gofnodi sgiliau Cymraeg o ran data a dadansoddiad staff yn rhan annatod o'r system gyflogres o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Dangosir ffigurau diwedd y flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2023 isod ac ar y dudalen nesaf. Mae'r lefelau sgiliau yn cael eu mesur yn unol â'r canllawiau sgiliau iaith a ddarperir gan Gymdeithas y Profwyr Iaith yn Ewrop (ALTE). Ar dudalennau 29-30 yr adroddiad hwn, gwelwch fanylion sgiliau iaith staff fesul mesur maes gwasanaeth ar raddfa o 5 yn 'Hyfedredd' i lawr i 'Dim Sgiliau'.

Lefel 5 Lefel 4 Lefel 3 Lefel 2 Lefel 1 Dim Sgiliau
Hyfedredd Uwch Canolradd Sylfaen Mynediad -

Ar adeg adrodd y llynedd, roedd cyfanswm y staff a'r siaradwyr Cymraeg o fewn y sefydliad fel a ganlyn o'i gymharu â'r flwyddyn adrodd hon:

Cyfansymiau’r cyngor 2022-2023

Cyfanswm Staff Siaradwyr Cymraeg %
8535 2100 24.6

Cyfansymiau’r cyngor 2023-2024

Cyfanswm Staff Siaradwyr Cymraeg %
8670 2258 26.04

O gymharu â'r llynedd, eto rydyn ni wedi cofnodi cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg; roedd hyn ar draws pob cyfadran.

Proffil ieithyddol y gweithlu - gallu yn y gymraeg yn ôl maes gwasanaeth a rhuglder ar 31 mawrth 2024

Ffigyrau staff cyffredinol

Cyfansymiau 2022-2023

Economi a’r Amgylchedd – Cyfansymiau 2022-2023 Cyfanswm y Staff Siaradwyr Cymraeg %
Isadeiledd 974 123 12.62
Gwasanaethau Eiddo 68 22 32.35
Diogelu’r Cyhoedd, Gwasanaethau Cymunedol a Hamdden 813 148 18.2
Adfywio a Chynllunio 323 68 21.05
Cyfanswm 2149 355 16.51

Cyfansymiau 2023-2024

Economi a’r Amgylchedd – Cyfansymiau 2023-2024 Cyfanswm y Staff Siaradwyr Cymraeg %
Isadeiledd 928 125 13.46
Gwasanaethau Eiddo 63 20 31.74
Diogelu’r Cyhoedd, Gwasanaethau Cymunedol a Hamdden 781 205 26.24
Adfywio a Chynllunio 350 70 20.0
Cyfanswm 2099 417 19.86

Cyfansymiau 2022-2023

Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol– Cyfansymiau 2022-2023 Cyfanswm y Staff Siaradwyr Cymraeg %
Cyllid Corfforaethol 167 28 16.76
Gwasanaeth Cwsmeriaid a Digidol 153 41 26.79
Dysgu, Addysg a Chynhwysiant 456 101 22.14
Y Gyfraith a Llywodraethu 64 16 25.00
Gwasanaethau i Bobl 105 30 28.57
Ysgolion 3335 1131 33.91
Gwasanaethau Trawsnewid 787 171 21.72
Cyfanswm 4851 1461 30.11

Cyfansymiau 2023-2024

Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol – Cyfansymiau 2023-2024 Cyfanswm y Staff Siaradwyr Cymraeg %
Cyllid Corfforaethol 167 25 14.97
Gwasanaeth Cwsmeriaid a Digidol 150 43 28.66
Dysgu, Addysg a Chynhwysiant 483 114 23.60
Y Gyfraith a Llywodraethu 67 17 25.37
Gwasanaethau i Bobl 112 36 32.14
Ysgolion 3310 1166 35.22
Gwasanaethau Trawsnewid 870 196 22.52
Cyfanswm 4935 1538 31.16

Cyfansymiau 2022-2023

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai– Cyfansymiau 2022-2023 Cyfanswm y Staff Siaradwyr Cymraeg %
Gwasanaethau i Oedolion 1080 148 13.70
Gofalu am Gaerffili 26 7 26.92
Cartrefi Caerffili 491 68 13.85
Gwasanaethau i Blant 335 109 32.53
Tîm Datblygu'r Gweithlu ar y Cyd 3 1 33.33
Cyfanswm 1929 330 17.1

Cyfansymiau 2023-2024

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai – Cyfansymiau 2023-2024 Cyfanswm y Staff Siaradwyr Cymraeg %
Gwasanaethau i Oedolion 1073 148 13.79
Gofalu am Gaerffili 34 9 26.47
Cartrefi Caerffili 537 78 14.52
Gwasanaethau i Blant 337 114 33.82
Tîm Datblygu'r Gweithlu ar y Cyd 2 0 0.0
Cyfanswm 1974 349 17.67

Nodiadau

Nid yw’r ffigyrau fesul maes gwasanaeth ar gyfer Cyfanswm y Staff a Siaradwyr Cymraeg yn gyfartal â'r cyfanswm cyffredinol fesul Cyfadran oherwydd bod gan rai aelodau o staff fwy nag un swydd yn y sefydliad a bod y swyddi hynny o fewn meysydd gwasanaeth gwahanol.

Yn unol ag adroddiadau blaenorol, mae’r ffigurau yn 4i) uchod yn gyfansymiau nifer y bobl fesul cyfadran sydd wedi cwblhau’r ffurflen Sgiliau Ieithyddol gan nodi sgiliau Iaith Gymraeg.

Mae’r ffigyrau a ddangosir yn 4ii) i 4iv) sy’n dilyn, yn cyfeirio at lefelau rhuglder siaradwyr Cymraeg fesul maes gwasanaeth ac ni ellir eu cymharu’n uniongyrchol â’r cyfansymiau a ddangosir yn 4i) oherwydd er enghraifft yn yr isadran Cyllid Corfforaethol (yr ail adran isod yn 4ii), mae'r golofn "Lefel 4" yn cyfeirio at aelod staff sy’n gallu darllen, siarad, deall ac ysgrifennu at Lefel 4, ac nid tri aelod staff gwahanol.

Ii)economi a’r amgylchedd

Isadeiledd 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 12 1 2 8 88 11 3
Deall 9 5 4 9 74 16 8
Ysgrifennu 10 2 5 6 50 42 10
Cyfanswm Staff 125
Gwasanaethau Eiddo 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 0 0 1 2 16 1 0
Deall 0 0 1 3 13 3 0
Ysgrifennu 0 0 0 2 7 11 0
Cyfanswm Staff 20
Diogelu’r Cyhoedd, Gwasanaethau Cymunedol a Hamdden 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 17 9 13 31 130 5 0
Deall 19 14 13 24 116 17 2
Ysgrifennu 18 5 16 32 85 48 1
Cyfanswm Staff 205
Adfywio a Chynllunio 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 9 1 2 16 36 6 0
Deall 9 4 2 9 38 6 2
Ysgrifennu 9 1 2 10 30 14 4
Cyfanswm Staff 70

Iii)gwasanaethau cymdeithasol a thai

Gwasanaethau i Oedolion 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 11 8 2 10 106 11 0
Deall 12 12 1 5 92 23 3
Ysgrifennu 12 8 1 10 50 62 5
Cyfanswm Staff 148
Gofalu am Gaerffili 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 1 0 0 0 7 1 0
Deall 1 0 0 0 8 0 0
Ysgrifennu 1 0 0 0 4 4 0
Cyfanswm Staff 9
Cartrefi Caerffili 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 3 4 7 4 57 3 0
Deall 3 6 4 1 41 19 4
Ysgrifennu 2 4 6 2 25 35 4
Cyfanswm Staff 78
Gwasanaethau i Blant 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 6 3 6 6 87 6 0
Deall 8 7 2 7 72 16 2
Ysgrifennu 6 5 3 5 58 34 3
Cyfanswm Staff 114
Tîm Datblygu'r Gweithlu ar y Cyd 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 0 0 0 0 0 0 0
Deall 0 0 0 0 0 0 0
Ysgrifennu 0 0 0 0 0 0 0
Cyfanswm Staff 0

Iv)addysg a gwasanaethau corfforaethol

Cyllid Corfforaethol 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 0 1 0 2 20 2 0
Deall 0 1 0 2 17 5 0
Ysgrifennu 0 1 0 2 11 10 1
Cyfanswm Staff 25
Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 3 0 3 2 34 1 0
Deall 3 3 1 3 25 5 3
Ysgrifennu 4 1 1 0 22 13 2
Cyfanswm Staff 43
Dysgu, Addysg a Chynhwysiant 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 9 4 0 11 89 1 0
Deall 10 2 4 4 85 7 2
Ysgrifennu 8 3 2 6 61 31 3
Cyfanswm Staff 114
Y Gyfraith a Llywodraethu 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 0 1 1 2 12 0 1
Deall 1 1 1 2 9 2 1
Ysgrifennu 0 2 0 3 8 3 1
Cyfanswm Staff 17
Gwasanaethau i Bobl 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 0 0 0 6 28 2 0
Deall 0 2 1 2 27 4 0
Ysgrifennu 0 0 1 4 19 12 0
Cyfanswm Staff 36
Ysgolion 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 201 48 41 235 614 22 5
Deall 194 81 93 169 530 64 35
Ysgrifennu 203 37 48 208 400 222 48
Cyfanswm Staff 1166
Gwasanaethau Trawsnewid 5 4 3 2 1 Dim Sgiliau Heb Ddatgan
Gwrando / Siarad 11 11 4 19 137 13 1
Deall 13 15 8 17 113 29 1
Ysgrifennu 13 4 8 17 58 88 8
Cyfanswm Staff 196

Darpariaeth hyfforddiant cyfrwng cymraeg

Mae Cyngor Caerffili wedi darparu cyrsiau Cymraeg sgyrsiol i staff ac aelodau etholedig ers 2001. Mae cyrsiau hefyd ar gael i aelodau o'r cyhoedd ac aelodau staff o sefydliadau partner i fynychu. Mae'r cyrsiau'n amrywio o gyrsiau blasu sylfaenol i ddechreuwyr i gyrsiau sy'n darparu ar gyfer y rhai sydd bellach yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Yn ystod y cyfnod clo cychwynnol, symudwyd pob cwrs i gael ei gynnal ar-lein; mae hyn yn ei dro wedi arwain at y rhan fwyaf o'r gwersi yn parhau i gael eu cynnal ar-lein, gyda nifer fach o staff yn mynychu gwersi yn bersonol.

Rydyn ni’n cynnal sesiynau hyfforddiant mewnol gan gynnwys cyrsiau blasu i staff sy’n amrywio o ynganu ardaloedd lleol a theitlau swyddi i gyfarchion sylfaenol gan gynnwys hoff bethau a chas bethau.

Mae'r data ar gyfer y cyrsiau Cymraeg a gynigir ac a fynychwyd gan staff CBS Caerffili ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023-2024 fel a ganlyn:

CYRSIAU Y CYNNIGWYD NIFER Y STAFF SY'N MYNYCHU
Cyrsiau Blasu 55
Cyrsiau Blwyddyn Lefel Mynediad 18
Cyrsiau Blwyddyn Lefel Sylfaen 9
Cyrsiau Blwyddyn Lefel Canolradd 6
Cyrsiau Blwyddyn Lefel Uwch 2
Cyrsiau Gloywi 2
Tynnu o’r Cwrs 4

Mae Cyngor Caerffili yn falch o gefnogi staff mewn ystod eang o gyrsiau Cymraeg drwy wefan Dysgu Cymraeg. Mae'r cyrsiau'n cynnwys cyrsiau blwyddyn o hyd, sy'n para rhwng 30 a 32 wythnos; cyrsiau ar-lein, modiwlau hunan-astudio 10 awr; ysgolion haf a phreswyl; a chyrsiau blasu ac atodol, pob un yn amrywio o Lefel Mynediad i lefel Gloywi.

Ffigurau staff caerffili – 2018-2024

Blwyddyn Academaidd Cyrsiau blwyddyn Cyrsiau Blasu ac Atodol Cyfanswm Nifer y Dysgwyr (Nifer a dynnodd o’r cwrs)
2018 – 2019 53 91 144 (6)
2019 – 2020 62 185 223 (0)
2020 – 2021 27 219 246 (2)
2021 – 2022 35 - 35 (1)
2022 – 2023 50 11 61 (5)
2023 - 2024 41 55 96 (4)
CYFANSYMIAU 268 561 805 (18)

Cynyddodd cyfanswm nifer y staff sy'n dysgu Cymraeg yn ystod y flwyddyn ariannol hon i 96 o 61 y llynedd. Mae hyn yn cyd-fynd â ni yn newid y ffordd y mae staff yn cael cynnig cyrsiau ac yn gweithio'n agosach gyda'r Tîm Cyflogadwyedd i gynnig ystod eang o gyrsiau blasu i bob aelod o'r tîm. O'i gymharu â blynyddoedd blaenorol, mae gennym bellach broses gofrestru symlach o lawer sydd wedi helpu i leihau ein hamser gweinyddol.

Gan weithio'n agos gyda'r ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gall staff ddechrau cwrs Cymraeg ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, ac fel y nodwyd, mae cyrsiau uchod yn amrywio o ran arddull a lleoliad cyflwyno. Mae rhai staff hyd yn oed wedi dilyn cyrsiau dwys wythnos o hyd yn Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn.

Er mwyn annog staff i fynychu cyrsiau ymhellach, rydyn ni’n cynnal 'Clwb Clebran' (clwb sgwrsio) i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg, ddod at ei gilydd ac i greu amgylchedd croesawgar i staff ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg. Mae'r rhwydwaith o staff yn cefnogi ei gilydd yn y gweithle, ac yn helpu i ddatblygu sgiliau Cymraeg ar gyfer y gweithle.

Yn ystod 2023-2024, cafodd staff 2 gyfle i fynychu cwrs Ymwybyddiaeth y Gymraeg, a ddenodd 11 o fynychwyr ar draws y ddwy sesiwn. Rhaid darparu'r cwrs hwn ar gyfer staff yn unol â Safon 132:

Mae'n rhaid i chi ddarparu cyrsiau hyfforddi fel bod eich gweithwyr yn gallu datblygu –

ymwybyddiaeth o'r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o'i hanes a'i rôl yn niwylliant Cymru);

dealltwriaeth o'r ddyletswydd i weithredu yn unol â safonau'r Gymraeg;

dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.

Gall y cyrsiau Ymwybyddiaeth Gymraeg fod yn effeithiol iawn wrth newid agweddau ac archwilio'r pwyntiau canlynol:

  1. Pam bod angen i ni roi sylw i'r Gymraeg?
  2. Beth sydd angen i ni ei wybod am yr iaith a'i siaradwyr?
  3. Sut gallwn ni weithredu mewn ffordd sy'n hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg?

Rhoddodd y staff a fynychodd y sesiynau adborth cadarnhaol, ac mae dyfyniad gan un aelod o staff isod:

“Craff iawn ac wedi'i anelu yn y ffordd iawn i bawb a fynychodd, y rhai sydd â pheth dealltwriaeth a'r rhai nad oes ganddynt fawr ddim dealltwriaeth o'r iaith neu ddim dealltwriaeth o gwbl ohoni. Fe wnes i fwynhau'r sesiwn hon yn fawr iawn ac mae wedi gwneud i mi fod eisiau dysgu mwy.”

Yn unol â Safon 128, rhaid i'r cyngor ddarparu hyfforddiant i staff drwy gyfrwng y Gymraeg yn y meysydd canlynol:

Rhaid i chi ddarparu hyfforddiant yn y Gymraeg yn y meysydd canlynol, os ydych yn darparu hyfforddiant o'r fath yn Saesneg –

  • (a) recriwtio a chyfweld;
  • (b) rheoli perfformiad;
  • (c) cwynion a gweithdrefnau disgyblu;
  • (ch) ymsefydlu;
  • (d) ymdrin â'r cyhoedd; a
  • (dd) iechyd a diogelwch.

Recriwtio i swyddi gwag

Cafodd cyfanswm o 685 o swyddi newydd a gwag a hysbysebwyd ers 31 Mawrth 2023 eu categoreiddio fel swyddi lle:

(i)Roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol - 9

(ii)Roedd angen dysgu sgiliau Cymraeg wrth eu penodi i'r swydd - 13

Mae cyrsiau hyfforddiant Cymraeg wedi bod ar gael i'r holl staff ac aelodau etholedig am ddim ers blynyddoedd academaidd 2001-2002 (gweler Adran 5)

(iii)Roedd sgiliau Cymraeg yn ddymunol - 663

(iv)Nid oedd angen sgiliau Cymraeg - 0

Cynhelir yr Asesiadau Sgiliau Iaith Gymraeg mewn perthynas â swyddi gwag neu swyddi newydd fel sy'n ofynnol gan Safon 136, ac maent wedi'u cofnodi gan Adnoddau Dynol ers mis Hydref 2016. Yna mae'r asesiad a'r dystiolaeth ategol yn ffurfio rhan o'r achos busnes sydd ei angen i gael caniatâd i lenwi swydd wag neu greu un newydd.

Cwblheir Asesiad Sgiliau Iaith Gymraeg ar gyfer pob swydd wag neu newydd, sy'n cael ei hysbysebu fel Cymraeg yn ddymunol fel gofyniad safonol. Mae'r asesiad a wneir yn penderfynu a ddylid hysbysebu unrhyw swyddi newydd neu wag fel rhai Cymraeg hanfodol, yn unol â rôl y swydd a'r cyswllt â'r cyhoedd.