News Centre

Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu

Postiwyd ar : 07 Mai 2024

Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Bydd mannau gwyrdd ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu gadael i dyfu a ffynnu yn ystod y gwanwyn a’r haf i greu dolydd a lle ar gyfer natur.
 
Mae’r prosiect ‘Natur Wyllt’ wedi disodli ‘Mai Di-dor’ i’n hannog ni i gyd i newid y ffordd rydyn ni'n rheoli ein glaswelltir ar leiniau, mannau agored a pharciau er budd natur. Bydd y newidiadau hyn hefyd yn helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd.
 
Fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, mae awdurdodau lleol ledled Gwent wedi cydlynu rheoli mannau gwyrdd i greu cynefinoedd i beillwyr sy’n llawn blodau gwyllt. Drwy adael i fannau gwyrdd dyfu, rydyn ni'n annog mwy o flodau gwyllt i flodeuo, gan ddarparu bwyd a chynefin i fywyd gwyllt a phryfed peillio fel gwenyn a phili-palod.
 
Nid dim ond natur sy'n elwa, trwy ganiatáu i blanhigion dyfu gwreiddiau mwy maen nhw'n storio mwy o garbon yn y pridd ac yn helpu lliniaru newid yn yr hinsawdd.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Rydyn ni'n falch o gefnogi’r prosiect 'Natur Wyllt' i ganiatáu i’n dolydd a’n blodau gwyllt dyfu a blodeuo. Mae'r prosiect hefyd yn ein galluogi ni i gynnal a gwella bioamrywiaeth ledled y Fwrdeistref Sirol.
 
“Gall unrhyw drigolion sydd â phryderon neu gwestiynau ofyn i'w Cynghorydd lleol. Rydyn ni bob amser yn ceisio adborth gan drigolion ac yn edrych ymlaen at glywed gennych chi”.
 
Bydd mannau gwyrdd yn parhau i gael eu rheoli i ddiwallu anghenion trigolion. Bydd ymylon llwybrau a lleiniau ar gyffyrdd yn cael eu torri i gynnal diogelwch. Bydd mannau agored mawr, ardaloedd hamdden a chaeau chwaraeon hefyd yn cael eu cynnal.
 
I ddod o hyd i restr lawn o fannau a fydd yn cael eu gadael i dyfu yn 2024: https://democracy.caerphilly.gov.uk/documents/s47598/Cabinet%20Report%20-%20Grass%20Cutting%20Regimes .pdf?LLL=1


Ymholiadau'r Cyfryngau