Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
Mae'r gwasanaeth gofal a gafodd ei ddatblygu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ystod anterth y pandemig bellach yn dathlu blwyddyn o weithredu.
Heddiw (23 Mawrth), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo ‘Rhaglen Cymorth Tai 2022–2026’, sy'n nodi ei ddull ar gyfer y dyfodol o ran atal digartrefedd a darparu gwasanaethau cymorth tai.
Y stryd fawr yn Rhymni a Rhisga yw'r rhai cyntaf i ‘fynd yn fyw’ gyda Wi-Fi cyhoeddus am ddim fel rhan o waith adfywio parhaus Cyngor Caerffili o ran canol trefi.
Bydd Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga yn cynnal taith gerdded cŵn yng Nghoedwig Cwmcarn i godi arian ar gyfer ei Chanolfan Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth.
Mae staff llyfrgelloedd Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn gweithio'n galed i drawsnewid rhan o ganolfan gymunedol leol yn llyfrgell dros dro ar ôl i storm Eunice ddifrodi llyfrgell boblogaidd.
Mae’r artist lleol, Roy Guy, wedi rhoi portread o’r bardd, Idris Davies, i Lyfrgell Rhymni i baratoi ar gyfer Hwb Dysgu Cymunedol arfaethedig Idris Davies.