Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
Bydd tîm ‘Gofalu am Gaerffili’, tîm o staff sefydledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cynnig gwasanaeth brysbennu newydd wedi’i drefnu’n ganolog er mwyn ymateb i drigolion y Fwrdeistref Sirol hynny sydd angen cymorth gyda materion fel tlodi bwyd, ôl-ddyledion dyled neu rent, unigedd neu unigrwydd.
Daeth dros 6,300 o ymwelwyr i ganol tref Coed Duon y penwythnos diwethaf ar gyfer y Farchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf olaf.
Yn dilyn ymweliad safle diweddar a thrafodaethau â Dŵr Cymru, nid oedd yn bosibl parhau i weithio ar un groesfan gan ei bod yn debygol iawn y bydd yn achosi niwed i'r brif bibell ddŵr haearn bwrw fregus.
Bu Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn pledio i drigolion lleol, gan ofyn iddynt aros i dderbyn eu brechiad atgyfnerthu a pheidio â chysylltu â'r Bwrdd Iechyd ar gyfer manylion eu hapwyntiad.
Mwy o wastraff bwyd, papur lapio a blychau cardbord – mae yna ddigon o wastraff sy'n gallu cael ei ailgylchu. Dyma rai o'n hawgrymiadau defnyddiol ni i sicrhau cyn lleied â phosibl o wastraff y cartref adeg y Nadolig.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Mercher 15 Rhagfyr) yn cadarnhau tri deg achos newydd o amrywiad Omicron yng Nghymru. Daw hyn â ni at gyfanswm o chwech deg dau achos.