Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
Gydag wythnos i fynd nes bydd pleidleiswyr Bwrdeistref Sirol Caerffili yn mynd i bleidleisio ar 6 Mai, rydyn ni'n annog pleidleiswyr i baratoi i bleidleisio.
Mae trigolion yn ardaloedd Cefn Fforest a Choed Duon wedi cael eu gofyn i roi eu barn am gynigion i osod parc sglefrio newydd ar safle Maes y Sioe.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gwent i orfodi'r parthau cerddwyr a beicio mewn ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae fideo animeiddio byr wedi cael ei gynhyrchu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd cudd a mynd o un soffa i'r llall.
Mae tîm Rhaglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lansio gwefan newydd, Ein Pantri Ar-lein, ar gyfer busnesau gwledig lleol ym Mwrdeistrefi Sirol Caerffili a Blaenau Gwent er mwyn iddyn nhw arddangos eu cynnyrch a'i wneud yn haws iddyn nhw werthu eu nwyddau ar-lein.
Mae Grŵp Prosiectau Peirianneg Cyngor Caerffili yn falch o gyhoeddi bod y gwaith i adfer ategwaith pont droed y Lleuad Lawn sydd wedi ei ddifrodi wedi cychwyn ar y safle'r wythnos hon. Bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn dau gam.