Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
Mae prosiect wedi cael cyllid i ariannu dau heddwas a’r dechnoleg ddiweddaraf i fynd i’r afael â gyrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd.
Mae Cyngor Caerffili wedi sicrhau £1m o grant cyfalaf Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru ar gyfer gosod cae 3G rygbi a phêl-droed defnydd deuol maint llawn i ddisodli'r cae pob tywydd presennol yn Ysgol Gyfun Rhisga a Chanolfan Hamdden Rhisga.
Mae prosiect sydd wedi'i ddatblygu a'i gyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cymdeithas Tai Unedig Cymru, Platfform a Llamau wedi ennill y categori ‘Gweithio mewn Partneriaeth’ yng Ngwobrau Tai Cymru eleni.
Mae lleoliadau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig croeso cynnes y gaeaf hwn i unrhyw un y mae biliau ynni cynyddol a’r argyfwng costau byw yn effeithio arnyn nhw.
Cafodd Asbri Golf Ltd, sydd wedi’i leoli yng Nghaerffili, ddiwedd gwych i’r flwyddyn gyda help gan gymorth masnach ryngwladol Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Heddiw (13 Rhagfyr), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno ar y cynnydd rhent blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25.