English | hawlfraint / ymwadiad | gwefeistr | hafan tudalen cbsc  
 
 

Adeiladau
Unedau 1-4 | Unedau 5-8 | Uned ADC
Gweithiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac Awdurdod Datblygu Cymru mewn partneriaeth ar y cam cyntaf o’r gwaith datblygu ar lwyfandir 2. Adeiladwyd y 4 uned mewn safleoedd blaenllaw wrth y fynedfa i Lwyfandir 2 – Bryn Brithdir.
Cynllun: Safle Unedau 1-4

Mae’r pedair uned gweithgynhyrchu, dwy yn 10,000 troedfedd sgwâr (929 metr sgwâr) a dwy yn 20,000 troedfedd sgwâr (1,858 metr sgwâr) wedi eu gosod fel adeiladau lled-wahanedig sy’n cynnwys 15% o arwynebedd swyddfa a lle i ehangu 100% ar y safle.

Mae’r cwmnïau lleol Aztech Assemblies a The Omiga Glass Centre yn defnyddio unedau 1 a 2, sef yr unedau 10,000 troedfedd sgwâr (929 metr sgwâr).

Mae pencadlys General Dynamics United Kingdom Ltd wedi ei leoli yn Unedau 3 a 4. Mae’r ddwy uned 20,000 troedfedd sgwâr (1,858 metr sgwâr) wedi eu cyfuno a’u haddasu i’w defnyddio fel swyddfa ar gyfer uwch reolwyr a swyddogaethau cymorth megis TG a chyllid. Mae’r timau rheoli rhaglenni ar gyfer BOWMAN a’r rhaglenni digidoli tir hefyd wedi eu lleoli yn yr adeilad.

Printer friendly page Fersiwn addas i argraffu | Ymwadiad eiddo | Yn ôl

Unedau 1-4
Logo Undeb Ewropeaidd Amcan 1