Y ganolfan newyddion

Chwilio Newyddion

Newyddion Diweddar
Mae Dull Byw Hamdden yn falch o gyhoeddi partneriaeth newydd gyffrous gydag E-chwaraeon Cymru, gan gynnig mynediad unigryw i aelodau o'r gymuned gemau at aelodaeth â disgownt, hollgynhwysol mewn canolfannau hamdden ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'r cydweithrediad hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad i hyrwyddo dull byw cytbwys ac iach i bawb...
Rydyn ni wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Gofalu am Gaerffili wedi cyrraedd rownd derfynol dau gategori yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru sydd ar y gweill. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn amlygu ein cyfraniadau sylweddol i'r gymuned a'n hymrwymiad i wella iechyd meddwl a lles yn y rhanbarth.
Mae tri brawd yn paratoi i agor bar caffi newydd ar ôl cymryd les hen safle Coffi Vista drosodd, mewn lleoliad gwych gyferbyn â chastell godidog y dref.
Mae’r cylchlythyr hwn wedi’i greu i roi gwybodaeth ddefnyddiol i drigolion am hanes y safle, y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma, yn ogystal â chynlluniau parhaus i wneud gwelliannau pellach yn y dyfodol.
I ddathlu Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol ddydd Mercher 18 Medi, mae Dull Byw Hamdden yn falch o gyhoeddi diwrnod llawn o weithgareddau, cynigion arbennig a digwyddiadau cymunedol yn ein safleoedd ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rydyn ni’n gwahodd pawb i ymuno â ni am ddiwrnod o ffitrwydd a hwyl.
Roedd yn anrhydedd i Wasanaethau Chwaraeon a Hamdden Bwrdeistref Sirol Caerffili groesawu Hanna Guise, Rheolwr Dysgu Nofio Cenedlaethol Nofio Cymru, i Ganolfan Hamdden Caerffili yr wythnos hon. Fe wnaeth Hanna arwain dosbarth meistr gyda’r nod o wella darpariaeth gwersi nofio ysgolion cynradd ledled y Fwrdeistref Sirol.