Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod y Gwasanaeth Llyfrgelloedd, o ddydd Llun 7 Mehefin ymlaen, yn croesawu trigolion sydd eisiau pori'r silffoedd a dewis eu llyfrau eu hunain yn ôl i'n llyfrgelloedd mewn hybiau a threfi.
Mae ein Tîm Gofalu am Gaerffili wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau partner wedi'u cydlynu gan y Rhwydwaith Lles Integredig i gefnogi busnesau lleol a thrigolion i ddod yn 'Fargod Dementia-gyfeillgar'.
Caniateir i bob lleoliad lletygarwch agor ond mae'n ofynnol iddyn nhw gymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gyhoeddi, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, bod cynllun adeiladu sylweddol wedi'i gwblhau sy'n dod ag eiddo busnesau newydd i safle Tŷ Du yn Nelson.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ceisio'ch barn mewn perthynas â'r ddarpariaeth arfaethedig a'r diwygiadau i Orchmynion Traffig mewn gwahanol leoliadau yn Ward Bedwas, Tretomos a Machen, yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae partneriaeth gyffrous rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a chanolfan Technocamps Prifysgol Caerdydd yn defnyddio hapchwarae i gynnwys plant a phobl ifanc de ddwyrain Cymru yn y gwaith o ddylunio canolfan ganser newydd yr Ymddiriedolaeth.